Dydd Mercher 9fed Ebrill 2025 – Sesiwn o Gerdded a Sgwrsio

Ymunwch â ni am daith gerdded yn ardal Taf Bargod y Comin. Byddwn yn cychwyn am 9:30 y bore o’r Ganolfan Summit. Wedi’r daith gerdded ymunwch â ni am goffi a chacen yng nghaffi’r Ganolfan Summit er mwyn trafod y cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd ar gyrraedd. Byddwn yn trafod y prosiectau diweddaraf a hoffem glywed gennych ynghylch sut y gallwn wella’r sesiynau gwirfoddoli a’r math o weithgareddau a gynigir.

Os nad allwch ymuno â ni i gerdded, mae pob croeso i chi ymuno â ni am goffi a chacen er mwyn bod yn rhan o’r drafodaeth anffurfiol yn y caffi. Byddwn nôl yn y caffi tua 10:30am.

  • OS YDYCH YN DOD I GERDDED, COFIWCH WISGO ESGIDIAU CADARN A DILLAD SY’N ADDAS AR GYFER YR AMODAU A’R TYWYDD.