Dydd Mercher y 18fed o Ragfyr – Taith Gerdded y Nadolig

Ymunwch â ni y tu allan i Ganolfan Rock Uk am 9.30 y bore er mwyn cymryd rhan yn ein digwyddiad Nadolig dwy ran – taith gerdded ar y Comin ac, wedi hynny, lluniaeth ysgafn a’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y prosiect nôl yng Nghanolfan Rock UK.

Rhan 1 – Bydd hi’n daith 6km (efallai’n fyrrach – bydd yn dibynnu ar amodau’r tywydd a’r tir) ar y Comin. Byddwn yn gadael o Ganolfan Rock UK am 09:30 y bore. Rydym yn argymell eich bod chi’n gwisgo esgidiau cerdded / esgidiau sy’n addas ar gyfer y tirwedd a’r tywydd. Bydd y daith yn gyfle i weld enghreifftiau o’r gwaith a wnaed yma hyd yn hyn a chyfle i sgwrsio gyda gwirfoddolwyr, staff a chominwyr tra’n crwydro ardal Taf Bargod y Comin. Cofiwch wisgo siwmperi a hetiau Nadoligaidd! 😊! 

Rhan 2 – Byddwn yn darparu te, coffi a chacen yng Nghanolfan Rock Uk. Bydd cyflwyniad byr anffurfiol ynghylch prosiectau cyfredol a phrosiectau’r dyfodol a bydd digonedd o gyfleoedd i sgwrsio’n anffurfiol ymysg ein gilydd. Bydd rhan 2 yn cychwyn tua 11:30 y bore, ond mae croeso i chi ymuno â ni unrhyw bryd wedi’r amser hwnnw. Mae’r ystafell gennym tan 13:30.

Mae croeso i chi ymuno â ni am y digwyddiad cyfan neu am gyfran ohono yn unig.