Addysg

Dysgwyr 4 i 11 oed

Cwricwlwm 2022

Cynlluniwyd y gweithgareddau hyn i gyd-fynd â gofynion Cwricwlwm 2022. Eu nod yw cefnogi athrawon i ddatblygu dysgwyr ifanc i gyflawni’r pedwar diben trwy gyfrwng tasgau ymgysylltiol, ymarferol, metawybyddol, cydweithredol sy’n gwella sgiliau dysgwyr o ddatrys problemau, meddwl yn feirniadol, cydweithio, cyfathrebu, meddwl yn greadigol ac ymchwilio.

trawsgwricwlaidd

Mae Cwricwlwm 2022 yn pwysleisio’r angen am gyd-destunau thematig trawsgwricwlaidd sydd â sgiliau trawsgwricwlaidd y fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd, a Chymhwysedd Digidol wedi eu gwreiddio ynddynt. Mae’r holl weithgareddau’n cyflawni’r gofynion hyn a chyfeirir atynt felly.

Y gweithgareddau yw

Nod y gweithgareddau yw ysgogi chwilfrydedd dysgwyr, fel y byddant yn fwy ymgysylltiol ac felly’n cael eu cymell yn well i lwyddo. Maent yn seiliedig ar gwestiynu oherwydd mai dyma’r grym sydd y tu ôl i wella meddwl lefel uwch dysgwyr, gyda chwestiynau o ansawdd uchel yn arwain at siarad o ansawdd uchel. 

Amlinellir 12 egwyddor addysgegol yng Nghwricwlwm 2022. Mae’r gweithgareddau a ddatblygwyd yn cyflawni’r gofynion hyn o ran dysgu ac addysgu da, gan roi cyfleoedd i ddefnyddio’r holl egwyddorion addysgegol. 

Gellir lawrlwytho’r pecyn sefydlu gweithgareddauyma.

Derbyn – Blwyddyn 2

Blynyddoedd 3 – 6