Pachu’r Comin
Mae’r Comin yn amgylchedd bregus ac mae angen ei barchu. Yn anffodus, mae’r comin yn wynebu lefelau uchel o broblemau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan leiafrif o bobl yn ein cymunedau. Mae hyn yn cael effaith niweidiol ar y Comin.
Gallwch chi helpu i amddiffyn y Comin trwy ddilyn y rheolau syml hyn:
Gyrru ar Dir Comin
Mae’n anghyfreithlon gyrru ar dir comin heb ganiatâd y tirfeddianwyr.
Mae gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn achosi erydiad, yn tarfu ar fywyd gwyllt a gall arwain at anaf i anifeiliaid sy’n pori.
Gall yr Heddlu gymryd camau gorfodi mewn perthynas â’r drosedd hon naill ai trwy osod dirwy neu gymryd cerbydau ymaith.
Dylid rhoi gwybod i’r Heddlu trwy ffonio 101 os gwelir beiciau modur, beiciau cwad a cheir 4x4s yn gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon.
Pori Anghyfreithlon a Gadael Ceffylau a Merlod
Dim ond y rhai sydd â “hawliau” cyfreithiol all bori anifeiliaid ar y Comin.
Peidiwch â bwydo’r anifeiliaid ar y Comin am fod hyn yn eu hannog i ochr y ffordd, gan eich rhoi chi a nhw mewn perygl.
Peidiwch ag ymyrryd ag anifeiliaid, na cheisio helpu anifeiliaid hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eu bod mewn cyfyngder. Os gwelwch anifeiliaid sydd wedi’u hanafu neu mewn cyfyngder rhowch wybod i:
- CBS Caerffili – 01443 815558 (oriau gwaith) neu 01443 875500 (argyfwng y tu allan i oriau)
- CBS Merthyr – 01685 725000 (oriau gwaith) neu 01685 385231 (argyfwng y tu allan i oriau)
- Canolfan Alwadau’r RSPCA: 0300 1234 999
Cŵn
Gan fod y Comin yn cael ei ystyried fel Tir Mynediad Agored, mae’n ofynnol i gŵn fod ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf i amddiffyn adar sy’n nythu ar y ddaear, ac ar unrhyw adeg arall o amgylch da byw.
Dylai llanast cŵn gael ei fagio a’i finio, oherwydd gall cŵn gario’r paraseit Neospora yn ddiarwybod, ac fe all hynny niweidio gwartheg beichiog.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn berchennog cyfrifol.
Ffyrdd
Mae nifer o ffyrdd yn croesi’r Comin. Gan ei fod yn bennaf heb ei ffensio, mae anifeiliaid pori yn crwydro’n rhydd yno.
Dylai gyrwyr bob amser fod yn wyliadwrus a gyrru’n araf.
Tipio Anghyfreithlon
Mae hyn nid yn unig yn edrych yn hyll ond yn achosi niwed sylweddol i fywyd gwyllt, anifeiliaid pori, aelodau’r cyhoedd a ffermwyr.
Mae hefyd yn drosedd. Os ydych chi’n talu rhywun i gael gwared â’ch ysbwriel heb wneud y gwiriadau perthnasol, gallai gael ei dipio’n anghyfreithlon.
Gallech hefyd gael Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 neu gofnod troseddol. Mae mwy o wybodaeth am eich Dyletswydd Gofal fel deiliad tŷ ar gael yn www.dutyofcare.wales
- Os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref ynghyd â’u lleoliadau trwy ymweld yma.
- Os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Merthyr, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref ynghyd â’u lleoliadau trwy ymweld yma.
Taflu Ysbwriel
Yn yr un modd â thipio anghyfreithlon, mae ysbwriel ar ochr y ffordd yn hyll ac yn achosi niwed i fywyd gwyllt ac anifeiliaid pori.
Gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol.
Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu.
Llosgi Bwriadol / Tanau Gwyllt
Er y gall llosgi dan reolaeth fod yn ffordd ddefnyddiol o reoli’r dirwedd, dim ond pobl fedrus ddylai wneud hyn, a dylent weithredu o dan amodau a reolir yn ofalus a chyda chefnogaeth y Gwasanaeth Tân.
Ar y llaw arall, mae tanau bwriadol yn mynd allan o reolaeth yn gyflym iawn ac yn dinistrio darnau helaeth o dir comin a bywyd gwyllt.
Mae dŵr ffo o ardal losg yn wenwynig iawn ac yn aml yn mynd i mewn i nentydd ac afonydd. Mae glaw trwm sy’n cwympo ar ardaloedd llosg yn aml yn achosi erydiad ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o lifogydd.
Dylid rhoi gwybod am bob tân trwy ffonio 999 cyn gynted â phosibl.
Trosedd Treftadaeth
Trosedd treftadaeth yw unrhyw drosedd sy’n targedu’r amgylchedd hanesyddol fel safleoedd archeolegol, eglwysi, cestyll ac ati.
Mae hyn yn cwmpasu amrywiaeth eang o weithgareddau troseddol, a gallai ei effeithiau arwain at ddifrod neu golli asedau treftadaeth am byth.
Gall y gweithgareddau hyn gynnwys difrod troseddol, llosgi bwriadol, cloddio heb awdurdod, canfod metel yn anghyfreithlon (sef yr hyn a elwir yn “night-hawking” yn Saesneg) neu ddifrod gan gerbydau.
Mae’r Comin wedi’i fendithio â hanes cyfoethog ac mae ganddo lawer o Henebion Cofrestredig ac Anghofrestredig.
Helpwch ni i amddiffyn yr asedau pwysig hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol trwy hysbysu’r Heddlu ar 101 o bob trosedd treftadaeth.