Tirwedd y Comin

Roedd hwn yn gynllun peilot, ddwy flynedd o hyd a oedd yn gweithio â’r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol er mwyn ymdrin â phroblemau ar y Comin, fel:

  • Tipio anghyfreithlon a gollwng sbwriel
  • Gadael ceffylau a merlod a phori anghyfreithlon
  • Gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd/li>
  • Problemau gwrthgymdeithasol, cyffredinol

Prif nod y prosiect oedd adfer, cynnal a diogelu Tirwedd y Comin er mwyn sicrhau ein bod yn edrych ar ei ôl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Comin Gelligaer a Merthyr wedi’i restru’n Dirwedd Hanesyddol, benodedig gan CADW ac mae’n unigryw o ran yr hyn y mae’n ei gyfrannu i’r cymunedau gwledig sy’n ei amgylchynu a hynny o safbwynt amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Fodd bynnag, roedd ansawdd cynefinoedd, bioamrywiaeth a phori ar y Comin yn dirywio yn sgil nifer o broblemau sy’n deillio o weithgaredd dynol, negyddol ar y dirwedd.

Common Land - Gelligaer and Merthyr Common
Common Land - Gelligaer and Merthyr Common

Roedd y prosiect yn gynllun peilot, yn bennaf a oedd yn sicrhau man diogel i dreialu dulliau newydd o weithio. Rhoddodd hefyd gyfle i staff greu cynllun hirdymor ar ei gyfer gan sicrhau ei fod yn cael ei reoli yn unol ag egwyddorion Rheolaeth Gynaliadwy Adnoddau Naturiol ( Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy: canllaw | LLYW.CYMRU ). Gellir lawr-lwytho crynodeb o’r prosiect yma.

EAFRD-logo-jpeg
Tirwedd y Comin - Common Landscape Logo