{"id":7134,"date":"2025-02-28T10:36:13","date_gmt":"2025-02-28T10:36:13","guid":{"rendered":"https:\/\/gmcommon.org\/?p=7134"},"modified":"2025-06-29T11:24:03","modified_gmt":"2025-06-29T11:24:03","slug":"myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/","title":{"rendered":"Myfyrdodau o&#8217;r Comin: Ionawr 2024"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Mae hi\u2019n fis Ionawr \u2013 y mis dig du yn \u00f4l Dafydd ap Gwilym. Serch hynny mae\u2019r diwrnodau yn goleuo un cam ceiliog ar y tro ac erbyn diwedd y mis bydd rhyw ymdeimlad o newid ar y gorwel.<strong><\/strong><\/strong><\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Santes Dwynwen<strong><\/strong><\/strong><\/h2>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"733\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/GWLADYS_SKETCH_IMG_20241229_145728600_HDR_2-733x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7131\"\/><\/figure>\n\n<p>Mae\u2019r cyfnod wedi\u2019r Nadolig yn draddodiadol yn gysylltiedig ag egni anweledig bywyd newydd, a\u2019r addewid y bydd y gwanwyn yn dychwelyd. Yn y traddodiad Celtaidd mae dathliad Imbolc hefyd yn gysylltiedig \u00e2 chariad ac yn benodol gyda menywod. Nid yw\u2019n gyd-ddigwyddiad felly bod diwrnod Santes Dwynwen a Sant Ffolant yn cael eu dathlu yn ystod deufis cyntaf y flwyddyn. Dethlir diwrnod Santes Dwynwen ar y 25ain o&#8217;r mis hwn.&#13;\n&#13;\n<\/p>\n\n<p>Dwynwen yw nawddsant y cariadon. Pan drowyd Maelon, y g\u0175r roedd hi\u2019n ei garu, yn dalp o rew fel na fyddai e\u2019n gallu achosi trafferth iddi bellach, defnyddiodd Dwynwen un o dri dymuniad a roddwyd iddi, i\u2019w ddadmer. Yn ail, dymunodd y byddai gwir gariad yn cael ei warchod am byth yn ei henw ac yn drydydd dymunodd na fyddai hi ei hun fyth yn cwympo mewn cariad eto nac yn priodi fyth ychwaith. Daeth y tri dymuniad yn wir. Felly os oes yno rywun arbennig rydych yn ei garu, cofiwch anfon carden atynt ar y 25ain o\u2019r mis i ddathlu\u2019r cariad hwnnw, a hefyd i gofio am Dwynwen a\u2019i haddewid i holl gariadon Cymru.<\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Capel Gwladys<strong><\/strong><\/strong><\/h2>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/CapelGwyladys_portrait-768x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7127\"\/><\/figure>\n\n<p>Ond beth sydd a wnelo hyn oll \u00e2 chomin Gelligaer a Merthyr? Roedd Dwynwen yn blentyn i Brychan Brycheiniog &#8211; brenin ardal Brycheiniog yn y bumed ganrif. Yn \u00f4l bucheddau\u2019r seintiau daeth Brychan yn wreiddiol o Iwerddon cyn iddo briodi  Marchell, etifeddes Garthmadrun (nawr Brycheiniog) a symud i Gymru. Roedd ganddo nifer o blant &#8211; rhyw 24 i gyd &#8211; er bod s\u00f4n mewn gwahanol fannau bod ganddo lai neu fwy na hynny. Felly roedd gan Dwynwen sawl brawd a chwaer. Un ohonynt oedd Tudful a sefydlodd yr anheddfa Gristnogol gyntaf ym Merthyr; ac un ohonynt oedd Gwladys. Yn \u00f4l y chwedl, wedi brwydr gyda Brychan Brycheiniog, cipiwyd Gwladys o lys ei thad yn Nhalgarth gan Gwynllyw fab Glywis o Went.  <\/p>\n\n<p>Mewn un fersiwn o\u2019r stori, yn ei gynddeiriogrwydd rhedodd Brychan ar \u00f4l ei ferch ond pan ddaeth o hyd iddi roedd hi\u2019n cysgu ymysg y rhedyn ym mreichiau ei chariad. Toddodd calon ei thad ac mewn ymgais o heddwch addawodd adeiladu capel yn ei henw yn y man lle daeth o hyd iddi. Priododd y ddau gariad gan fyw yn ardal Gelligaer o\u2019r Comin neu o bosib Boch Riw Carn, nawr Fochriw. Sefydlodd Gwladys ei chapel ar y Comin rhwng Gelligaer a Bargoed ac ym 1906 daethpwyd o hyd i groes garreg Geltaidd ar y safle, croes a oedd yn dyddio o\u2019r wythfed ganrif ydoedd. Gosodwyd y groes honno yn Eglwys Sant Catwg yng Ngelligaer i\u2019w chadw\u2019n ddiogel. Catwg oedd un o feibion Gwladys a Gwynllyw. &#13;\n <\/p>\n\n<p>Datgladdwyd Capel Gwladys ym 1906 oherwydd ar y pryd roedd Awdurdod Cyngor Gelligaer yn chwilio am fan addas i\u2019w ddefnyddio fel mynwent. Daethpwyd o hyd i\u2019r groes Geltaidd o dan slab o garreg addurnedig wrth iddynt archwilio\u2019r ardal am le i roi\u2019r fynwent. Adeiladwyd wal isel, betryalog tua throedfedd o uchder o amgylch y safle ac mae\u2019r wal yno hyd heddiw. Ond os edrychwch yn ofalus ar y tir, gellir gweld olion wal arall, crwn, sydd yn awgrymu mae ardal sanctaidd o gryn bwysigrwydd oedd y lle hwn amser maith yn \u00f4l.<\/p>\n\n<p>Yn nes ymlaen gosodwyd carreg goffa yn yr ardal o fewn y wal betryalog. Gan fod y capel yn agos at Fferm Maerdy, credir y bu\u2019r ardal hon o\u2019r comin yn un bwysig, ac yn ganolfan weinyddol hyd yn oed. Ar un adeg, galwyd yr ardal hon yn Dir Gwladys. Mae hi\u2019n werth ymweld \u00e2\u2019r amlinelliad sydd ar \u00f4l o\u2019r capel \u2013 o bryd i\u2019w gilydd byddwch yn gweld bod tusw o flodau wedi ei gadael yno er cof am rywun. Efallai mai Ionawr &#8211; oherwydd Dwynwen ac er cof am gariad Gwladys at Gwynllyw &#8211; yw\u2019r mis perffaith i wneud hynny. <\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Y Rhedyn lle Cysgai Gwladys<\/strong><\/h2>\n\n<p>Nodwyd yn y llyfr <em>The Gelligaer Story<em> y gorchuddiwyd Tir Gwladys gan redyn ym 1906, yn union fel y gwaeth yn yr hen chwedl. Cliriwyd llawer ohono yn ystod y datgladdiad er mwyn archwilio\u2019r ardal yn drylwyr ond mae&#8217;n dal i dyfu\u2019n helaeth ar hyd y Comin.&#13;\n&#13;\nY rhedyn a welir yma yw\u2019r Rhedynen Gyffredin neu\u2019r Rhedyn Ungoes. Dyma un o\u2019r rhedynnau mwyaf hynafol ac yn \u00f4l tystiolaeth a ddaw o ffosilau mae&#8217;n dyddio\u2019n \u00f4l mor bell \u00e2 55 miliwn o flynyddoedd. Y rhedynen gyffredin hon sy\u2019n gyfrifol am arlliw hydrefol ein gaeafau. Yn y gwanwyn mae\u2019n cynnig gobaith wrth i\u2019w deil-gangau ymagor yn raddol &#8211; cyn iddi droi ein bryniau yn sbloet bywiog o wyrdd yn yr haf.&#13;\n&#13;\nEr gwaethaf ei harddwch a\u2019i hanes anhygoel, nid yw\u2019r rhedynen gyffredin hon wastad o fudd i\u2019n hamgylchfyd. Mae\u2019n wir ei bod hi\u2019n cynnig cysgodfa i\u2019r anifeiliaid &#8211; sy\u2019n beth da yn ystod hafau twym y Comin &#8211; ond mae\u2019n blanhigyn mor gryf fel y gall atal rhywogaethau eraill rhag ffynnu. Mae yno rannau o Gefn Merthyr lle nad yw\u2019r rhedyn yn tyfu mor drwchus ac yn y mannau hynny gwelir bod grug ac aeron duon bach a mwsogl a chen o bob math yn llwyddo i dyfu a phrifio. <\/em><\/em><\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Y Lleuad<strong><\/strong><\/strong><\/h2>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"996\" src=\"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2-1024x996.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7129\" srcset=\"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2-980x953.jpg 980w, https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2-480x467.jpg 480w\" sizes=\"(min-width: 0px) and (max-width: 480px) 480px, (min-width: 481px) and (max-width: 980px) 980px, (min-width: 981px) 1024px, 100vw\" \/><\/figure>\n\n<p>Enw lleuad lawn Ionawr yw\u2019r Lleuad Dawel &#8211; mae&#8217;n wahanol i&#8217;r enw a geir yn y Saesneg. Bydd yn ymddangos yn y ffurfafen ar y 13eg o\u2019r mis hwn. Mae Capel Gwladys ar Gomin Gelligaer a Merthyr yn fan prydferth i\u2019w gweld. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae hi\u2019n fis Ionawr \u2013 y mis dig du yn \u00f4l Dafydd ap Gwilym. Serch hynny mae\u2019r diwrnodau yn goleuo un cam ceiliog ar y tro ac erbyn diwedd y mis bydd rhyw ymdeimlad o newid ar y gorwel. Santes Dwynwen Mae\u2019r cyfnod wedi\u2019r Nadolig yn draddodiadol yn gysylltiedig ag egni anweledig bywyd newydd, a\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":7130,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-7134","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Myfyrdodau o&#039;r Comin: Ionawr 2024 &#8211; Gelligaer and Merthyr Common<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Myfyrdodau o&#039;r Comin: Ionawr 2024 &#8211; Gelligaer and Merthyr Common\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae hi\u2019n fis Ionawr \u2013 y mis dig du yn \u00f4l Dafydd ap Gwilym. Serch hynny mae\u2019r diwrnodau yn goleuo un cam ceiliog ar y tro ac erbyn diwedd y mis bydd rhyw ymdeimlad o newid ar y gorwel. Santes Dwynwen Mae\u2019r cyfnod wedi\u2019r Nadolig yn draddodiadol yn gysylltiedig ag egni anweledig bywyd newydd, a\u2019r [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Gelligaer and Merthyr Common\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-02-28T10:36:13+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-06-29T11:24:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2425\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"2358\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Catrin\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Catrin\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Catrin\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/6dcb89e9ec887a1551d968a5922dcebd\"},\"headline\":\"Myfyrdodau o&#8217;r Comin: Ionawr 2024\",\"datePublished\":\"2025-02-28T10:36:13+00:00\",\"dateModified\":\"2025-06-29T11:24:03+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/\"},\"wordCount\":978,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/01\\\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg\",\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/\",\"name\":\"Myfyrdodau o'r Comin: Ionawr 2024 &#8211; Gelligaer and Merthyr Common\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/01\\\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg\",\"datePublished\":\"2025-02-28T10:36:13+00:00\",\"dateModified\":\"2025-06-29T11:24:03+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/01\\\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/01\\\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg\",\"width\":2425,\"height\":2358},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Myfyrdodau o&#8217;r Comin: Ionawr 2024\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Gelligaer and Merthyr Common\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Gelligaer and Merthyr Common\",\"url\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2020\\\/04\\\/GMCommonComingSoon-Logo2.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2020\\\/04\\\/GMCommonComingSoon-Logo2.png\",\"width\":500,\"height\":250,\"caption\":\"Gelligaer and Merthyr Common\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/6dcb89e9ec887a1551d968a5922dcebd\",\"name\":\"Catrin\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/97f63f177dafcc2c0195ee6e116238c52a738135eb143a3da0cd06956dd77e90?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/97f63f177dafcc2c0195ee6e116238c52a738135eb143a3da0cd06956dd77e90?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/97f63f177dafcc2c0195ee6e116238c52a738135eb143a3da0cd06956dd77e90?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Catrin\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/gmcommon.org\\\/cy\\\/author\\\/catrin\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Myfyrdodau o'r Comin: Ionawr 2024 &#8211; Gelligaer and Merthyr Common","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Myfyrdodau o'r Comin: Ionawr 2024 &#8211; Gelligaer and Merthyr Common","og_description":"Mae hi\u2019n fis Ionawr \u2013 y mis dig du yn \u00f4l Dafydd ap Gwilym. Serch hynny mae\u2019r diwrnodau yn goleuo un cam ceiliog ar y tro ac erbyn diwedd y mis bydd rhyw ymdeimlad o newid ar y gorwel. Santes Dwynwen Mae\u2019r cyfnod wedi\u2019r Nadolig yn draddodiadol yn gysylltiedig ag egni anweledig bywyd newydd, a\u2019r [&hellip;]","og_url":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/","og_site_name":"Gelligaer and Merthyr Common","article_published_time":"2025-02-28T10:36:13+00:00","article_modified_time":"2025-06-29T11:24:03+00:00","og_image":[{"width":2425,"height":2358,"url":"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Catrin","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Catrin","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/"},"author":{"name":"Catrin","@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/#\/schema\/person\/6dcb89e9ec887a1551d968a5922dcebd"},"headline":"Myfyrdodau o&#8217;r Comin: Ionawr 2024","datePublished":"2025-02-28T10:36:13+00:00","dateModified":"2025-06-29T11:24:03+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/"},"wordCount":978,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg","articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/","url":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/","name":"Myfyrdodau o'r Comin: Ionawr 2024 &#8211; Gelligaer and Merthyr Common","isPartOf":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg","datePublished":"2025-02-28T10:36:13+00:00","dateModified":"2025-06-29T11:24:03+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/#primaryimage","url":"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg","contentUrl":"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/WOLF-MOON-SKETCH_IMG_20241229_160835526_2.jpg","width":2425,"height":2358},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/myfyrdodau-or-comin-ionawr-2024\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Myfyrdodau o&#8217;r Comin: Ionawr 2024"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/#website","url":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/","name":"Gelligaer and Merthyr Common","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/#organization","name":"Gelligaer and Merthyr Common","url":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/GMCommonComingSoon-Logo2.png","contentUrl":"https:\/\/gmcommon.org\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/GMCommonComingSoon-Logo2.png","width":500,"height":250,"caption":"Gelligaer and Merthyr Common"},"image":{"@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/#\/schema\/person\/6dcb89e9ec887a1551d968a5922dcebd","name":"Catrin","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/97f63f177dafcc2c0195ee6e116238c52a738135eb143a3da0cd06956dd77e90?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/97f63f177dafcc2c0195ee6e116238c52a738135eb143a3da0cd06956dd77e90?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/97f63f177dafcc2c0195ee6e116238c52a738135eb143a3da0cd06956dd77e90?s=96&d=mm&r=g","caption":"Catrin"},"url":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/author\/catrin\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7134","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7134"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7134\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7139,"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7134\/revisions\/7139"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7130"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7134"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7134"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/gmcommon.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7134"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}