Gwybodaeth Am Y Comin
Beth yw tir comin?
Mae’r cysyniad o dir comin yn mynd yn ôl ganrifoedd.
Cafodd “cominwyr” hawliau gan Arglwydd y Faenor i ymgymryd â nifer o wahanol weithgareddau.
Roedd yr hawliau hyn yn amrywio o gomin i gomin, ond roeddent yn cynnwys casglu coed tân, pysgota, pori anifeiliaid, torri mawn, casglu rhedyn ar gyfer gwasarn, a hawliau eraill oedd yn amrywio yn ôl anghenion lleol.
Mae gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth y llywodraeth wedi ffurfioli’r traddodiadau hyn.
Pwy sy’n berchen ar Dir Comin?
Mae pob tir comin yn eiddo i rywun. Gall perchnogion fod yn unigolion preifat, yn sefydliadau neu’n gyrff cyhoeddus.
Pwy yw’r Cominwyr?
Fel arfer, mae Cominwyr yn ffermwyr sydd â Hawliau Comin Cofrestredig. Yr hawl fwyaf cyffredin ymhlith Cominwyr yw’r Hawl Pori.
Trwy hyn, gall Cominwyr, a elwir weithiau’n “borwyr”, bori’u hanifeiliaid (defaid yn bennaf ond hefyd gwartheg, moch, ceffylau a hyd yn oed hwyaid) ar ddarn o dir a rennir – sef y comin – heb ffensys na ffiniau rhyngddynt.
Mae’r “Hawliau Comin” yn ymwneud yn bennaf ag eiddo a dyna pam y mae’r rhan fwyaf o ffermydd a leolir ar bwys comin yn meddu ar yr hawliau hyn.
Mae nifer a math o’r da byw a gaiff pob Cominwr eu pori wedi’u nodi mewn Cofrestr Tir Comin, sy’n dyrannu’r uchafswm o wartheg, defaid, merlod neu dda byw eraill y gall pob Cominwr eu pori.
Dim ond Cominwyr Cofrestredig sydd â hawliau pori, ni ddylai unrhyw un arall bori da byw ar dir comin.
Defaid Mynydd De Cymru
Mae rhan fwyaf y defaid a welwch ar y comin yn frîd lleol o’r enw Defaid Mynydd De Cymru, a weithiau fe’u gelwir yn “Nelson” neu’n “Glamorgan Welsh”. Maent yn frîd gwydn sydd wedi addasu i amodau garw’r bryniau a’r tiroedd comin yn Ne Cymru.
Wartheg Duon Cymru
Fe welwch lawer o Wartheg Duon Cymru yn pori’r comin. Mae’r brîd traddodiadol hwn o wartheg Cymreig yn un o’r bridiau gwartheg hynaf yn y DU a dyma’r unig frîd brodorol o Gymru.
Mae’r Map hwn yn dangos yr holl dir cyffredin ledled Cymru: