Lle i ymfalchïo ynddo

Saif tirwedd y Comin ar ucheldir sy’n ymestyn dros 3,000ha yn Ne-ddwyrain Cymru, ac fe’i rhannwyd rhwng bwrdeistrefi sirol Merthyr Tudful a Chaerffili. Yn bennaf, mae’n cynnwys cribau Cefn Merthyr, Cefn Gelligaer, Cefn y Brithdir ac ardal i’r gogledd o ffordd Blaenau’r Cymoedd.

Mae’r Comin yn dirwedd sy’n cynnal bywyd a gwaith, ac mae wedi’i thrwytho mewn hanes. Fe’i dynodwyd yn Dirwedd Hanesyddol gan Cadw am fod y tir yn dangos olion defnydd a gweithgaredd parhaus o gynhanes i’r gorffennol diweddar.

Gan fesur 3000ha, mae’r tir eang hwn yn chwarae’i ran yn y cylchoedd dŵr a charbon sy’n trefnu ac yn cefnogi ein bywydau bob dydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r Comin yn golygu cymaint i gynifer o bobl. I rai, mae’n ardal i bori anifeiliaid; i eraill, mae’n fan agored ar gyfer iechyd a lles. Mae rhai yn mwynhau’r asedau bioamrywiol a hanesyddol cyfoethog, tra bod eraill efallai’n ei fwynhau fel ffordd hardd o deithio i’r gwaith.

Beth bynnag fo’ch angerdd, mae yna edau gyffredin – mae hon yn dirwedd sy’n clymu’r ardal leol ynghyd.

Er bod y Comin wedi’i wreiddio mewn canrifoedd o hanes, mae’r un mor berthnasol i lawer o’r sialensiau sy’n ein hwynebu yn yr unfed ganrif ar hugain – cynaliadwyedd yr economi gwledig, ansawdd a diogelwch bwyd, llesiant corfforol a meddyliol, rheoli llifogydd, bioamrywiaeth a newid hinsawdd.

Gelligaer and Merthyr Common Map
Common Land

Tir Comin

Rydyn ni i gyd yn falch iawn o Comin Gelligaer a Merthyr, p’un ai fel preswylwyr, busnesau neu gyrff cyhoeddus. Fodd bynnag, mae yna reolau a hawliau sy’n gysylltiedig â thir comin nad yw pawb yn ymwybodol ohonynt.

Dysgu Mwy

Explore

Archwiliwch

Archwiliwch y wefan i ddysgu mwy am y comin, ac am ffyrdd o’i fwynhau’n gyfrifol a chymryd rhan yn ei weithgareddau.

Dysgu Mwy

Lluniau Diweddaraf

Tap ar y delweddau i weld y fersiwn fwy