Mae yno rywbeth am gadnoid sy’n awgrymu’r Hydref. Efallai mai lliw eu cot sy’n ein hatgoffa o liw’r dail crin neu efallai am fod y dyddiau’n byrhau bod mwy o siawns ein bod yn crwydro o amgylch y lle ar yr un adeg ag y mae’r cadno’n ymlwybro nôl i’w wâl wedi noson o hela. Pa beth bynnag yw’r rheswm, mae’r ysgrif hon yn canolbwyntio ar y cadno (neu’r llwynog fel mae’n cael ei alw yng ngogledd Cymru).
Y Cadno ar y Comin

Mae gan y cadno gysylltiad cryf ag ardal y Comin yn bennaf efallai oherwydd ei fod yn greadur sydd wedi rhoi ei enw i Fedlinog – un o’r pentrefi sy’n arwain at y Comin. Mae yno nant, sy’n cychwyn ei thaith ar y Comin ac yn teithio lawr drwy’r Pits Woods, mewn i Barc Nant Llwynog, lawr o dan sgwâr y pentref cyn ymuno â’r Taf Bargod ger Tafarn Isha. Yr enw ar y dafarn erbyn hyn yw’r Bedlinog Inn ond fe’i hadwaenir gan bobl y pentref fel y Taf – o ganlyniad i’r hen ddisgrifiad ohoni.



Mae yno hefyd ffarm sydd â hawliau pori ar Gomin Gelligaer a Merthyr – Ffarm Bedlinog. Ond mor hwyr â 1841 enw’r ffarm oedd Bedlinog Uchaf. Mae yno gofnod sy’n ddyddiedig 1604 o gae o’r enw Gwayne vedlinog a oedd siŵr o fod wedi dod yn rhan o dir Coly Isaf yn nes ymlaen. Ceir disgrifiad ym 1688 o Coly Isaf fel a ganlyn: “a tenement and lands called Bodloynog alias Tir Coli”. Mae’n debygol felly, yn ôl Cymdeithas Hanesyddol Gelligaer, mae ardal ddaearyddol o dir oedd Bedlinog yn wreiddiol yn hytrach nag enw ar ffarm.
Ar un adeg, roedd pentref Bedlinog wedi ei rannu’n ddwy – y gwaelod oedd Cwm Felin o ganlyniad i’r felin a oedd yn defnyddio dŵr Nant Llwynog a’r Taf Bargod i droi ei holwyn, a’r rhan uchaf oedd Blaen Crwn ar ôl y ffarm ar ben uchaf y pentref o’r un enw.





Dros y ddegawd ddiweddaf – neu’n rhagor eto – mae yno drafodaethau wedi codi ynghylch tarddiad enw’r pentref. Gyda rhai’n mynnu mai Bedd Llwynog fyddai’r enw gwreiddiol wedi bod. Ond o edrych ar enwau pentrefi cyfagos yr ardal, sylwir yn weddol gyflym bod rhan gyntaf yr enw – bed – hefyd yn ymddangos yn yr enwau Bedwellte a Bedwas, er enghraifft. Mae’r Bed yn yr enwau hyn – fel yn yr enw Bedlinog siŵr o fod – yn dod o’r gair bod – sef cartref parhaol, trigfan neu annedd. I ardal sydd wedi colli ei hiaith a’i thafodiaith – y Wenhwyseg – mae’r enw yn ein clymu at yr iaith honno. Iaith a oedd, tan yn ddiweddar, yn dal i gael ei siarad gan aelodau hŷn nifer o deuluoedd yr ardal. Drwy ddal gafael ar yr enw Bedlinog, mae’n ffordd i drigolion yr ardal allu dal gafael ar iaith a ddygwyd ymaith.
Y Cadno a Bedlinog

Yn lleol mae’r hewl sy’n arwain o Fedlinog tuag at faes parcio Carn Bugail yn cael ei alw’n The Fox. Wrth i’r hewl honno gyrraedd y grid gwartheg, yn union ger trothwy’r Comin, arferai tafarn o’r enw The Fox and Hounds sefyll. Adfeilion yn unig sydd ar ôl erbyn heddiw ac ambell i ddafad yn defnyddio ystafelloedd y dafarn gynt i gysgodi rhag haul yr haf neu dywydd garw’r gaeaf.
Mae’n bosib dweud bod yr hen gadno yn rhyw fath o dotem answyddogol i bobl Bedlinog. Os fyddwch fyth yn cerdded neu’n gyrru drwy’r pentref edrychwch yn ofalus o’ch cwmpas – ar garreg, ar bostyn rygbi, ar ddrws ffrynt, ar ffenest – fe welwch o amgylch y lle ddelweddau o’r cadno.


Bywyd y Cadno

Y cadno coch yw’r cadno sy’n byw yng Nghymru a’r enw Lladin yw Vulpes Vulpes. Gellir dod o hyd i’r cadno coch ar bron bob un cyfandir. Mewn amodau da, gall y cadno fyw am hyd at ddeuddeg mlynedd ond mae bywyd yn galed. O ganlyniad i ddamweiniau ffordd, hela ac afiechydon fel arfer dim ond am ryw ddwy neu dair blynedd maent yn dueddol o fyw. Tua mis Rhagfyr bydd y cadno’n chwilio am ei gadnöes ac yn ei dilyn o amgylch y lle am rai misoedd cyn ei bod hi’n barod i gyplu. Bydd y gadnöes yn feichiog am 53 diwrnod ac yn y cyfnod hwn, yn ogystal â’r cyfnod wedi genedigaeth y cenau bach bydd hi’n hollol ddibynnol ar y cadno am ei bwyd am nad yw hi braidd fyth yn gadael ei gwâl tan fod y cenau’n ddigon cryf fi wynebau’r byd. Maent yn cael ei geni yn ystod mis Mawrth neu Ebrill fel arfer.




Mae mis Hydref hyd ddiwedd mis Tachwedd hefyd yn bwysig i’r llwynogod oherwydd dyma’r adeg y bydd y cadnoaid ifainc, a rhai llwynogesau, yn chwilio am walau newydd. I ddynodi’r cyfnod pwysig hwn byddwch yn aml yn clywed sŵn cyfarth y cadnoaid ifainc wrth iddynt redeg yn rhydd i gychwyn eu bywyd newydd. Gwrandewch yn astud gyda’r nos y mis hwn i weld os allwch glywed sŵn y rhyddid newydd hwn yn atseinio dros y Comin.

Y Cadno Mewn Llên a Cherddoriaeth
Mae yno opera gan y cyfansoddwr Tsiec Leoš Janáček o’r enw Příhody lišky Bystroušky sy’n golygu Anturiaethau’r Gadnöes Finiog-glust ond daw’r cyfieithiad Saesneg The Cunning Little Vixen o gyfieithiad Almaeneg y teitl Das Schlaue Fücheslein gan y cyfieithydd Max Brod – a dyma’r teitl a ddefnyddiwyd led led y byd yn y pendraw. Heblaw am y Weriniaeth Tsiec, sy’n cadw’r teitl gwreiddiol. Cyfansoddwyd yr opera rhwng 1921 a 1923 ond mae hi’n dal i fod yn stori hyfryd a thrist hyd heddiw. Gellir gwarndo ar yr opera drwy glicio ar y ddolen isod:
Mae plant Cymru’n gyfarwydd wrth gwrs ag anturiaethau’r cadno Siôn Blewyn Coch a’i wraig Siân Slei Bach a’u plant. Ac yn 2011 Cyhoeddodd yr awdur Siân Melangell Dafydd stori fer o’r enw Foxy – cadno tacsidermi a oedd yn eiddo i deulu’r awdur oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r darn.
Mae’r Comin yn glytwaith o anifeiliaid, pryfaid, adar, planhigion, cerrig a chreigiau, pyllau dŵr ac olion hynafol ac mae’r cadno yno – yn crwydro ymysg y cyfan oll yn benthyg ei enw i nant a thir, i bentref a hewl heb anghofio adfeilion hen dafarn sy’n ddim ond carped o fwsogl a rhedyn erbyn heddiw.
Y fi yw’r Cadno Coch – pam oes arnat fy eisiau?
Y fi yw dy ddwbl,
Jackie Morris
dy ysbryd, dy arall,
Enaid y gwyllt
enaid yr hin
Coch yw fy ffwr a
choch fy nghelfyddyd
A choch yw gwaed
dy galon ddychrynllyd

Mae’r uchod yn bennill o’r gerdd Saesneg ‘Fox’ gan yr artist a’r awdur Jackie Morris sy’n byw yn Sir Benfro.
Arsylwadau O’r Comin: Hydref






























Tynnwyd y lluniau a’r ffotograffau prydferth yn yr ysgrif hon gan yr artist lleol @pollylove.studio
Diolch i Gymdeithas Hanesyddol Gelligaer am y wybodaeth ynghylch enwau ffermydd a chaeau ardal Bedlinog.






