| Medi gan Isfoel Y llwyni canau yn llawnion Afalau filoedd yn fochgochion Brithwyd y berth hyd y bôn Yn dew gan fwyar duon |

Mae mis Medi’n gyfnod o lawnder a ffrwythlondeb: y cnau, y caeau, y ffrwyth ac yn aml ceir awyr uchel las dwfn. Ond clywn hefyd sibrydion y gaeaf a cheir rhyw aflonyddwch yn yr aer sy’n ein hatgoffa bod y tymor ar fin troi.
Gallwn weld rhai o ddail y coed yn melynu – ac yn y gwrychoedd ac ar hyd gweundir y Comin gwelwn hefyd y rhedyn yn newid lliw.
Mewn rhai wythnosau bydd ein bryniau’n garped o rwd o’u herwydd a’u lliw yn cydweddu â brown carreg Pennant sy’n ymwthio o hyd, o hen chwareli’r mynydd.







Rhedyn Mewn Chwedlau Celtaidd

Mae gan y rhedyn ar ein tir hanes hir ymysg tiroedd y gwledydd Celtaidd. Mewn hen stori Wyddelig, ymddengys rhedyn yn hanes Nechtan, Brenin Cúige Mumhan (Munster) a Bres, Brenin Iwerddon. Rhoddwyd gwybod i Bres y byddai’n rhaid iddo yfed galwyni o laeth petai am wella anffrwythlondeb ei wraig. Gwnaeth hwn yn bosib iddo’i hun drwy godi treth laeth ar gartrefi Gwyddelig: byddai’n cymryd 100 tun o laeth o bob Buwch Frech. Mae Buchod Brech yn frown-lwyd o ran lliw ac roedd Nechtan yn berchen ar nifer o’r buchod hyn.
Er mwyn osgoi’r dreth laeth adeiladodd dân mawr o redyn a defnyddiodd y lludw, wedi ei gymysgu â hadau’r llin a dŵr, er mwyn paentio eu cotiau’n ddu. Mewn fersiwn arall o’r stori, gyrrodd ei fuchod drwy fwg rhedyn er mwyn llosgi’r cotiau’n ddu – ond yn y ddwy stori mae’r rhedyn yn elfen bwysig. Ymddengys hefyd yn un o straeon amlycaf Comin Gelligaer a Merthyr, stori Gwladys merch Brychan Brycheiniog. Cuddiodd Gwladys ymysg y rhedyn a syrthiodd i gysgu yno gyda Gwynllyw – y dyn roedd hi’n ei garu. Gellir darllen y stori ym Myfyrdodau mis Ionawr.
Mewn cân werin o’r Alban o’r enw ‘Tha mi Sgìth’ ceir hanes tylwythen deg a oedd yn torri’r rhedyn pan gwympodd mewn cariad gyda merch brydferth. Roedd y ferch yn teimlo’r un ffordd ond pan ddaeth ei theulu i wybod am ei chariad dyma nhw’n ei chloi hi yn ei hystafell er mwyn rhwystro’r ddau rhag cwrdd. Geiriau’r dylwythen deg a glywn yn y gân sydd hefyd yn cael ei adnabod dan enw arall ‘Buain na Rainich’ sy’n golygu ‘Torri’r Rhedyn’.
Gwrandewch ar y gân fan hyn: https://www.youtube.com/watch?v=DqfKigp99cY



Y Rhedynen Ungoes


Y rhedynen ungoes yw’r rhedynen fwyaf cyffredin (a’r mwyaf o ran maint) ym Mhrydain ac Iwerddon. Ei enw Lladin yw Pteridium aquilinum, fe all dyfu i uchder o chwe throedfedd – ac fe wna hynny hefyd mewn llawer man ar y Comin. Gellir dod o hyd iddo ar bob un o gyfandiroedd y byd heblaw am Antarctica.
Wrth i dymor yr Hydref nesáu, bydd y rhedyn yn raddol farw, gan droi lliw o’i wyrdd tywyll i frown ac mi fydd yn achosi trawsnewidiad dramatig i olwg ein tirlun. Mae’n well gan redyn pridd sych, asidaidd a gall ledaenu ryw un metr y flwyddyn drwy risomau tanddaearol. Amcangyfrifir bod yno 62,700 hectar o redyn yng Nghymru.

Rhedyn a’r Amgylchedd




Mae clystyrau trwchus o redyn a’u haenen drwchus o domwellt (o dwf y blynyddoedd blaenorol) yn aml yn wael iawn i fywyd gwyllt. Gall y planhigyn a’i risomau cryf hefyd niweidio nodweddion archeolegol. Fodd bynnag, gall rhedyn sy’n tyfu’n llai trwchus gynnal planhigion coetir fel Clychau’r Gog a’r Fioled Gyffredin sy’n brif ffynhonnell fwyd i sawl math o bili pala brith sydd dan fygythiad. Trafodwyd y Gylfinir yn yr ysgrif ddiwethaf ac mae cadw rhedyn yn yr ardaloedd maent yn nythu hefyd yn weithred ofnadwy o bwysig, gan mai ar lawr y mae’r gylfinirod yn creu eu nythod.
Gall rhedyn hefyd chwarae rôl bwysig ar y ffridd ac o fewn coetiroedd sydd wedi hen ymsefydlu. Mae’n un o’r rhywogaethau arloesol – golyga hyn ei fod, fel ei gyd-blanhigion mwsogl a chen, yn un o’r rhywogaethau sy’n gallu gwladychu tir diffaith er mwyn paratoi’r ffordd i blanhigion eraill allu ffynni yn yr ardal mewn blynyddoedd i ddod. Mae’n arwydd o ehangder hanesyddol coedwigoedd m Mhrydain oherwydd tybir mai yn wreiddiol rhedynen oedd yn perthyn i goetir agored ydoedd. Fodd bynnag, gyda newid hinsawdd, cynnydd yn y nitrogen sydd yn yr atmosffer (mae’n ffrwythloni’r tir) a newidiadau i’r arferion o reoli rhedyn, mae’n bosib nad yw’r rhedynen yn gymorth i greu coedwigoedd bellach.
Rhedyn a Thanau Gwylltion

Yn anffodus, un o’r prif resymau dros danau gwylltion yng nghymoedd de Cymru yw rhedyn sych. Am ei fod yn blanhigyn lluosflwydd, bydd yn marw’n flynyddol ac yn aildyfu yn yr un ardal. Mae’r cynnydd blynyddol yn nhyfiant y planhigyn yn creu haenen o domwellt sydd nid yn unig yn effeithio ar fioamrywiaeth ond, pan fo’r haenen hon yn sych, mae’n hylosg iawn. Gan fod y tanau hyn yn dueddol o ddigwydd pan fo’r rhedyn ynghwsg, nid yw’r tanau’n effeithio ar dyfiant y planhigyn ac, os unrhywbeth, maent o fudd i’r rhedyn oherwydd eu bod yn clirio’r haenen o domwellt ac yn creu maetholion i’r planhigyn (potash neu olchludw).
Mae tanau gwylltion yn amlwg yn effeithio ar gymunedau lleol o ganlyniad i lygredd aer a gall ddenu ein gwasanaethau brys i ffwrdd o alwadau brys eraill. Mae’r tanau hefyd yn cael effeith wael ar ein bywyd gwyllt, yr anifeiliaid sy’n pori ar y Comin, safon y dŵr ac effeithiau newid hinsawdd y dyfodol.
Rhedyn ac Amaethyddiaeth
Yn aml ystyrir rhedyn yn chwynnyn diangen (fel dant y llew neu ddanadl poethion). Fodd bynnag, yn union fel y ‘chwyn’ eraill hynny, yn hanesyddol maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni fel pobl. Byddai rhedyn cael ei ddefnyddio er mwyn creu lle i’r anifeiliaid gysgu, i gadw moron yn ystod y gaeaf, hefyd ar gyfer toeon gwellt. Arferir y rhai oedd yn dioddef o glunwst neu boenau eraill yn y coesau gerdded drwy fwg rhedyn er mwyn lleddfu’r symptomau a bwytawyd y dail hefyd er mwyn clirio’r stumog, neu leddfu problemau’r ddueg a’r coluddyn. Mae hefyd yn leinin da i’w ddefnyddio mewn basgedu blodau sy’n hongian.
Gwaith y menywod oedd casglu’r rhedyn hyn. Roedd yn waith caled a chorfforol iawn. Ar y gweundir uchel byddai’r menywod yn torri’r rhedyn a’u glymu’n fwndeli er mwyn eu cario adref. O ganlyniad i’w fuddioldeb, ac felly o’u ganlyniad i’r gwaith o’i gasglu, ni fyddai wedi lledaenu i’r graddau y mae’n lledaenu heddiw.

Yn gyffredinol mae rhedyn yn dueddol o fod yn arwydd o dir da, ffrwythlon, fel dengys yr hen ddihareb hon:
Aur dan y rhedyn;
Arian dan yr eithin;
Newyn dan y grug.
Yn ffodus iawn, mae nifer o’r ffermwyr sy’n defnyddio’r Comin i bori yn dal i dorri a chasglu rhedyn er mwyn ei ddefnyddio’n wely i’w hanifeiliaid. Mae’r weithred bwysig hon yn gymorth i gyfyngu lledaeniad y rhedyn wrth gadw ardaloedd yn agored i’r anifeiliaid sy’n pori, i fywyd gwyllt allu ffynnu ac i’r cyhoedd gael lle i gerdded ar hyd y tirlun. Mae’r weithred hefyd yn lleihau’r peryg o danau gwylltion. Mae defnyddio rhedyn ar gyfer gwelâu anifeiliaid yn ffordd o beidio â gorfod prynu gwellt ac mae’n enghraifft wych o sut allwn ddefnyddio cynnyrch sy’n gynaliadwy ac yn lleol. Yn anffodus, mae rhedyn yn le da i hislod fyw sy’n gallu achosi trafferthion i les yr anifeiliaid a chostau ychwanegol i’r ffermwyr. Gyda chlefyd Lyme (sy’n cael ei gario gan hislod) yn cynyddu, mae’n bosib y byddwn yn gweld y clefyd yn effeithio fwyfwy ar bobl yn y dyfodol.
Rheoli’r Rhedyn
Gellir rheoli’r rhedyn drwy chwistrellu cemegau drostynt neu drwy eu torri neu eu cleisio (gyda pheiriant neu anifeiliaid trwm) ond mae’n rhaid parhau i gynnal unrhyw driniaeth dros amser os ydynt am fod yn llwyddiannus.
Rydym yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i weithio mewn modd sy’n cynnal gwelliannau amgylcheddol, cymdeithasol a chymunedol y Comin wrth sicrhau ei fod yn parhau’n ardal fydd yn cynhyrchu bwyd i genedlaethau’r dyfodol. Mae’r modd yr ydym yn rheoli’r rhedyn yn elfen allweddol o’r gwaith hwn. Gall gymryd hyd at ddeng mlynedd i leihau tyfiant rhedyn drwy ddefnyddio’r dull torri neu gleisio, ond mae’n fwy caredig i’n tir ac i’n hamgylchfyd na defnyddio cemegau.



Yn ogystal â’r ardaloedd hynny lle mae’r ffermwyr yn torri ac yn bwndelu rhedyn i’w ddefnyddio fel gwlâu i’r anifeiliaid (yn bennaf yn ardaloedd deheuol Cefn Gelligaer), rydym hefyd yn torri rhedyn mewn mannau penodol er mwyn osgoi tannau gwylltion ac rydym yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrth ymgymryd â’r gwaith hwn. Pan fod grantiau’n caniatáu hynny, rydym yn sicrhau ein bod yn torri rhedyn yn y mannau hynny lle mae’r anifeiliaid yn pori yn ogystal â’r mannau hynny sy’n gweithredu fel toriad yn y tyfiant er mwyn osgoi tân. Rydym yn ffafrio torri ddwywaith yn y ddwy ardal yn ystod yr adeg honno o’r flwyddyn y mae’r rhedyn yn tyfu. Mae torri nifer o weithiau dros sawl blwyddyn yn gwanhau’r planhigyn yn eithriadol ac o ganlyniad yn creu tir agored i anifeiliaid bori ac i wahanol fathau o laswellt allu tyfu. Yn ddiweddar defnyddiwyd torrwr oedd yn cael ei reoli o bellter yn ardal Taf Bargod y Comin tra defnyddiwyd peiriant torri porfa fwy arferol yn ardal Llwybr Cerdded y Barcud Coch. Drwy gadw’r llwybrau hyn yn agored rydym yn galluogi’r cyhoedd i’w defnyddio. Mae’r cerddwyr yn eu tro’n gymorth i gyfyngu tyfiant y rhedyn am nad ydyw’n blanhigyn sy’n hoff iawn o bridd sydd wedi ei gywasgu.


Rydym hefyd wedi plannu coed mewn ardaloedd sy’n drwch o redyn gyda’r nod hirdymor o gysgodi’r planhigyn er mwyn ei wanhau ac i gyfyngu ar ei ledaeniad mewn ardaloedd nad sy’n cael eu pori rhagor ac / neu ar hyd glannau nentydd. Drwy blannu coed mewn ffordd ystyrlon rydym hefyd yn sicrhau buddiannau eraill i dir y Comin: cysgod i’r anifeiliaid, cynnydd ym mioamrywiaeth yr ardal, a chreadigaeth cynefinoedd newydd.



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi mabwysiadu ffordd fwy rhagweithiol o ddelio gyda thanau gwylltion a phan fo’r adnoddau a’r amodau yn caniatáu maent yn torri neu’n cleisio rhedyn a rhywogaethau problematig eraill. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ein cynorthwyo ni i reoli ardaloedd penodol o redyn dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith yn fawr iawn. Maent yn defnyddio dull o gleisio’r rhedyn gyda pheiriant a grëwyd yn benodol ar gyfer y gwaith hwn. Maent wedyn yn torri’r haenen o hen domwellt yn ystod tymhorau’r Hydref a’r Gaeaf.






