Wrth ystyried y Comin yn y Gaeaf, daw i’r meddwl foreau oer o farrug, patrymau pigog o iâ ar lafnau’r gwair a lliwiau dwfn y machludon cynnar. Mae’r tymor tywyll hefyd yn golygu mwy o law, gwyntoedd cryfion a chyfnodau o gymylau isel. Wrth i ni nesáu at y Nadolig, trown ein meddyliau at gapeli’r Comin – mannau sanctaidd lle, am ganrifoedd, byddai Cristnogion wedi dathlu’r Nadolig ar y mynydd anghysbell hwn.





Byddwn yn canolbwyntio’r mis hwn ar Gapel y Brithdir.





Mae’r capel ar Gefn y Brithdir sef y mynydd sy’n gwahanu cymoedd y Darran a’r Rhymni. Lan ar y cribyn mae’r golygfeydd yn anhygoel gyda Phen y Fan i’r gogledd, Pen y Fal i’r dwyrain ac ar ddiwrnod clir, tua’r De, y Môr Hafren yn pefrio yn y pellter. Mae’r mynydd hwn yn nodweddiadol o’r ucheldir hwn am ei fod yn rhan o Ffurfiant Pennant. Caiff ei bori’n llai grymus na Chefn Gelligaer, er enghraifft, ac felly mae yno amrywiaeth ehangach o lystyfiant i’w weld yn cynnwys sawl math o wair: Deschampsia flexuosa, Festuca ovina a Nardus stricta. Yn y mannau creigiog ac ar y llethrau serch mae grug yn tyfu.
Yn ogystal mae yno ardal fach o Ddiddordeb Gwyddonol o ganlyniad i “amrywiaeth a dwysedd cymharol y rhywogaeth o gorlwyni (llys y llugaeron)” sy’n tyfu yma (Cyngor Cefn Gwlad Cymru).





Ymysg y gwair, y grug a phrydferthwch naturiol y cribyn ceir golygfa annisgwyl begwn llywio awyrennau Aberhonddu, sydd wedi ei leoli yn agos at yr hewl sy’n croesi Cefn Brithdir o ganlyniad i’w faint a’i annhebygolrwydd yn y fan hon nid oes modd ei golli. Noda bwynt croesi lôn hedfan y Gogledd/De drwy Gymru a’r prif lwybr o Lundain dros yr Iwerydd.




Yn eistedd yn uchel ar ben y bryn mae yno rywbeth Sofietaidd, bron, am y begwn – fel petai wedi cyrraedd yma o’r dyfodol ac wedi ei adael y tu ôl yn y gorffennol: tameidyn yw o nofel ffuglen wyddonol neu gipolwg o gosmaeth Rwsiaidd – sain yn gyferbyniad i’w leoliad daearegol.

Yn ôl y llyfr The Gelligaer Story, “tynnwyd to Capel y Brithdir ymaith ym 1955, o ganlyniad i halogiad parhaus” ac arweiniodd hwn at ddinistriad llwyr y capel ym 1960. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daethpwyd o hyd i groes Geltaidd wedi ei chladdu y tu fewn i un o furiau’r capel. Wedi ei dyddio rhywbryd rhwng y 7fed a’r 10fed Ganrif, caiff ei chadw erbyn hyn yn eglwys Santes Gwladys ym Margod.
Yr hyn sydd ar ôl o Gapel y Brithdir yw llwyfan sy’n dangos lle safai capel a chopi o groes Geltaidd i ddynodi ei ddechreuad hynafol. Mae’r fynwent sy’n amgylchynu’r capel yn frith o gerrig beddi talsyth ac eraill sy’n gorwedd ar lawr. Mae’r geiriau arnynt yn Gymraeg ac yn Saesneg ill dwy. Mae’r gwaith yma’n hir ac anniben, ac ymestyn tua’r nen y mae cangenau’r bedw arian ifainc tra bod eraill yn sefyll yn dalsyth yn gwarchod hen fynedfa’r capel. Yn yr hen oesoedd byddai amgylchynwyd mannau sanctaidd â ffin gron. Yn yr un modd â Chapel Gwladys, os cymerwch yr amser i edrych yn ofalus, byddwch yn sylwi bod crymedd cyfarwydd yn y fan hon hefyd.

Ychydig fetrau i ffwrdd o Gapel-y-Brithdir saif copi o Garreg Tegarnacus. Safodd yma yn y 7fed Ganrif, ac o bosib hyd yn oed yn gynharach. Mae’r gwreiddiol nawr wedi ei chadw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Wedi eu harysgrifennu ar y garreg y mae’r geiriau Lladin Tegernacus Filius Marti Hic Iacit sy’n golygu “Yn y fan hon y mae Tegernacus Fab Martius yn gorwedd”. Deillia’r gair Cymraeg o’r enw hwn, dyma’r un ‘Teyrn’ a gawn yn y geiriau ‘Teyrnas’ a ‘Theyrnasu’.












Mae yno sawl llwybr i gyrraedd Capel y Brithdir ond dydd Mercher yr 17eg o Ragfyr byddwn yn cynnal taith dywys i’r capel yn gadael o Barc Cwm Darran am 9:30 y bore. Dewch i fwynhau wâc cyn y Nadolig yn ardal Cefn Brithdir a Chwm Darran. Bydd y wâc ryw naw cilometr o hyd a bydd yn cynnwys llwybrau, traciau a gweundir agored. Cofiwch wisgo esgidiau cadarn a dillad sy’n addas ar gyfer tywydd oer a gwlyb. Ymunwch â ni! Mae croeso cynnes i bawb!
Tynnwyd yr holl luniau arbennig yn y blog hwn gan yr artist @pollylove.sturio


















