Y Gylfinir

Does dim byd sy’n dynodi’r Gwanwyn a’r Haf yn fwy na chân fyrlymus y gylfinir – neu Pegi Big Hir i roi un o’u henwau eraill iddi. Rydym yn ofnadwy o lwcus yn yr ardal hon i allu clywed y Gylfinir ac i fod yn gartref iddi yn ystod misoedd yr haf oherwydd, er tristwch mawr, prinhau y maent yng Nghymru. I ddefnyddio disgrifiad Iolo Williams, mae’r Gylfinir yn:
“Aderyn mawr brown sy’n nythu ar ucheldir, gweundir a thir amaethyddol ac yn gaeafu ar dir isel ac ar yr arfordir. Crymanbbig hir (eiddo’r iâr yw’r hiraf, eiddo’r ifanc yw’r byrraf), coesau hir, llydan. Corff brown golau wedi ei ffritho’n dywyll. Pen plaen gyda streipiau llawer llai mlwg nag eiddo’r Coegylfinir. Pan fo’n hedfan, mae’r adain wrth y corff yn oleuach, a cheir ‘V’ gwyn ar y cefn. Aderyn mawr, adenydd hir â’u pennau’’n dywyll, yn curo’n araf. Heidiau’n clwydo mewn grwpiau neu linellau, yn fwy niferus o lawr na’r rhydwyr eraill ar y traeth…”
Mae gan y Gylfinir nifer o enwau eraill yn Gymraeg – Cornicyll y Waun, Giarliw, Chwibanogl y Mynydd, Cwrlig, Chwibanwr, Cwliwn, Glifinir fawr, Pegi Big Hir, Cwn Ebrill, Gylfinog, Whibanwr, Cyrliw, Glafnir

Y Gylfinir Mewn Barddoniaeth Gymraeg

Cawn gipolwg cyflym o’r Gylfinir ym mhennill gyntaf cerdd ysbrydol, ddofn Waldo Williams ‘Mewn Dau Gae’:
Mewn Dau Gae
Waldo Williams
“O ba le’r ymroliau’r môr goleuni
Oedd a’i waelod ar Weun Parc y Blawd a
Parc y Blawd?
Ar ôl i mi holi’n hir yn y tir tywyll,
O ble deuai, yr un a fu erioed?
neu pwy, pwy oedd y saethwr, yr eglurwr sydun?
Bywiol heliwr y maes oedd rholiwr y môr.
Oddifry uwch y chwibanwyr gloywbib, uwch
Callwib y Cornicyllod,
Dygai i mi y llonyddwch mawr.”

Megis yn y gerdd, dim ond cip a gawn ni o’r Gylfinir ar Gomin Gelligaer a Merthyr hefyd. Yn amlach na dim eu cân eiconig yn unig sy’n nodi eu presenoldeb cyfagos ar y gweundir.
Nawddsant y Gylfinirod

Yn ôl hen stori, nawddsant y Gylfinirod yw Beuno Sant, ac iddo ef mae’n rhaid diolch fod nythod gylfinirod mor anodd eu canfod. Roedd Beuno Sant, a oedd yn byw yng Nghlydog, yn arfer cerdded bod dydd Sul i ynys Landdwyn i roi pregeth. Byddai’n cerdded dros y môr i’w chyrraedd ac yn cerdded yn ôl dros y tonnau ar ei ffordd adref, yn union fel petai’n cerdded ar dir sych. Ond un dydd Sul, wrth iddo ddychwelyd, collodd ei bapurau pwysig i’r môr. Roedd wedi digalonni oherwydd treuliodd oriau maith yn ysgrifennu’r myfyrdodau ar y papurau hynny. Er mawr syndod iddo, pan gyrhaeddodd y tir, yno ar ben carreg roedd ei bapurau. Ac yn sefyll yn dalsyth, yn gofalu am y cwbl oedd y Gylfinir. Roedd yr aderyn wedi achub gwaith Beuno Sant a’i gario at ddiogelwch y garreg. Mewn diolchgarwch, penliniodd y Sant gerbron y Gylfinir a’i fendithio gan ofyn i’r arglwydd warchod a gofalu am yr aderyn am byth. O ganlyniad, mae hi wedi bod yn anodd dod o hyd i nythod y gylfinir byth ers hynny.
Gwarchod y Gylfinir

Yn anffodus, er gwaethaf nodded Beuno Sant, yn ôl y gweithgor Gylfinir Cymru, mae eu niferoedd wedi disgyn dros y deng mlynedd ar hunain diwethaf. Erbyn heddiw cyn lleied â 400 pâr sy’n magu drwy Gymru gyfan, tra roedd oddeutu 5,700 pâr yn 1993. Hefyd yn ôl Gylfinir Cymru:
“Ymhlith y ffactorau lleol sy’n effeithio ar boblogaethau ein gylfinirod mae adar a mamaliaid ysglyfaethus sy’n dwyn wyau a nythod, y weithred o dorri silwair yn gynnar, cerddwyr gyda chŵn oddi ar dennyn yn tarfu ar y gylfinir, diffyg porfa barhaol, ungnwd, draeniad tir (diffyg porfa laith i gywion y gylfinir chwilota ynddi), plannu coed. Mae’r ystod hon o ffactorau yn amlygu’r heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth adfer y gylfinir”
Rhywbeth y gallwn ni, fel pobl sy’n mwynhau’r Comin, ei wneud yw cadw ein cŵn ar dennyn os ydym yn mynd am ar grwydr ar hyd y gweundir ac mae modd hefyd cysylltu gyda Gylfinir Cymru er mwyn cymryd rhan wirfoddol yn eu prosiect cadwraeth. Gellir darllen rhagor amdanynt ar y wefan gylfinircymru.org neu drwy anfon e-bost at helo@gylfinircymru.org


Distawrwydd Mud







Er mwyn pwysleisio’r sefyllfa obeithiol y cawn ein hunain yn rhan ohoni ar Gomin Gelligaer a Merthyr, gallwn gyferbynnu’n sefyllfa ni i’r tristwch a’r golled a deimlir mewn mannau eraill o Gymru sy’n barod wedi profi diflaniad y Gylfinir. Isod ceir ffilm fer saith munud gan Malka sy’n trafod y golled bersonol a deimlodd hithau pan ddiflannodd y Gylfinir o’i chwm hi yng ngogledd Cymru. Dywedodd:
“Fel plentyn byddwn i’n edrych ymlaen bob gwanwyn at glywed y Gylfinir yn dychwelyd i fagu ger y bwthyn. Byddwn i’n arfer mynd allan gyda binocwlars i wylio’r Gylfinir ar y gweunydd ac yn aml yn taro ar Iolo Williams i fyny yno, a oedd yn swyddog rhywogaethau’r RSPB ar y pryd. Ry’n ni bellach yn gweithio gyda’n gilydd ar ffilmiau bywyd gwyllt.
Yn anffodus, tua ugain mlynedd yn ôl diflannodd y Gylfinir o’r dyffryn ble ces i fy magu. Ddaethon nhw byth yn ôl i’r tiroedd nythu yma. Dyna pam dewisais i’r teitl Syfrdan gan Ddistawrwydd, am ei bod hi mor ddistaw i fyny yno erbyn hyn, wedi colli cri’r Gylfinir.
Bu fy nhad, Clyde Holmes, yn byw yng Nghwm Hesgin am dros ddeugain mlynedd. Roedd yn fardd ecolegol ac yn artist ac fe baentiodd dirwedd yr ucheldiroedd. Mae’n dirwedd sy’n newid o hyd. Daeth yr ysbrydoliaeth i lunio’i gerdd ‘Curlew’s Nest’ yn sgil y cyfarfyddiadau niferus a gafodd â’r Gylfinir ac mae’r gerdd hon, a’r cyfieithiad Cymraeg ‘Nyth y Gylfinir’, yn ymddangos yn y ffilm.”
Mae’r gerdd gan ei thad, a gyfieithwyd i’r Gymraeg gan Rhodri ap Dyfrig, a ffilm swynol a phrydferth Malka ‘Syfrdanu gan Ddistawrwydd’ ill dwy i’w gweld isod – diolch o galon i Malka am roi caniatâd i ni rannu ei ffilm gyda chi.
Nyth y Gylfinir
gan Clyde Holmes, cyfieithiad gan Rhodri ap Dyfrig
Rhaid ei fod ger y ffermdy
Ers wythnosau bellach
Clywn duchan sgrech o’i fegin wichlyd
Uwch fy mhen, ei big yn gilgant
Yn gysgod cryman tywyll.
Ar adain dân
Daw cyrch o’r awyr
Gan boeri ei ddicter
Mewn rhythm dryll di-dor
Pan gamaf tu hwnt
I dir ei droelli
Daw pall ar ei dôn drwy ryw ledrith
Safaf yn stond mewn distawrwydd
Taith Gerdded y Gylfinir

Cyn bo hir bydd taith gerdded ar hyd y Comin o’r enw Llwybr y Gylfinir oherwydd dyma un o’r ardaloedd lleol lle gallwch ei gweld a’i clywed. Os fyddwch yn penderfynu cerdded y llwybr cofiwch ofalu am yr aderyn prin, anhygoel hwn. Rydym yn lwcus ein bod ni’n gallu rhoi lloches i’r hen Begi Big Hir, eto fyth.











