
Trosolwg Byr o Ddaeareg Comin Gelligaer a Merthyr
Pan mae’r haf yn ei anterth, does yno ddim byd prydferthach na Chomin Gelligaer a Merthyr. Gorwedda’r gweundir hwn yng ngogledd Maes Glo de Cymru. O edrych ar y dirwedd, yr hyn sy’n eich taro yw’r meithder dirfawr ac iddo olygfeydd sy’n ymestyn tuag at bellteroedd y Môr Hafren yn y de a chopa Pen y Fan yn y gogledd. Yn ymwthio o’r tir gwelir ambell i garn fan hyn a fan draw sy’n perthyn i un o gladdgelloedd yr Oes Efydd. Tuag at ogledd y Comin ceir craith fawr lofaol gwaith glo brig Ffos y Frân.

Er gwaetha’r diwydiant glo, y chwareli a’r pentrefi colledig, efallai mai un o’r pethau sy’n ein cyfareddu am y tirlun hwn yw’r ffaith nad ydyw wedi newid rhyw lawer dros y canrifoedd. Mae ei ddaeareg weladwy yn creu pont fetafforaidd rhyngom ni heddiw a’r oes a fodolai ymhell cyn i ddynolryw fodoli hyd yn oed.








Y Modd y Ffurfiwyd y Glo
Ffurfiwyd yr ehangder gwyrdd hwn, sy’n fyrdd o fywyd gwyllt, amser maith, maith yn ôl. Ffurfiwyd creigiau’r ardal hon rhwng 280 a 340 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae niferoedd y blynyddoedd mor fawr nes ei wneud yn anodd i’r meddwl ddal gafael arnynt. Enw’r cyfnod hwn mewn hanes yw’r Cyfnod Carbonifferaidd. Mae’r cyfnod hwn yn rhan o’r gorgyfnod Palalosöig ac yng Nghymru fe’i diffiniwyd gan y daearegydd (a Deon Llandaf) William Daniel Conybeare ym 1822. Meddai’r daearegydd Dyfed Elis-Gruffydd yn ei lyfr The Rocks of Wales:
“Rhennir y cyfnod yn ddau isgofnod, sef y Carbonifferaidd Isaf neu’r Dinantaidd a’r Carbonifferaidd Uchaf neu’r Silesaidd.”
Prif nodwedd y cyfnod hwn yng Nghymru oedd ffurfiant y Calchfaen Carbonifferaidd a hefyd – o ran Comin Gelligaer a Merthyr – ffurfiant y Cystradau Glo. Weithiau, yn ystod yr ysgrif hon, defnyddir y gair Cystradau Glo. Bryd arall defnyddir y term gwythïen lo. O ran diddordeb mae Cystraden Lo yn gorff cyfan o graig sy’n cynnwys sawl gwythïen lo, ymysgu creigiau eraill megis shâl a thywodfaen. Yn ne Cymru mae’r cystradau yn drwch o filoedd o droedfeddi. Mae gwythïen lo, ar y llaw arall, yn disgrifio haenen benodol, denau o lo.
Y Comin o dan y Môr
Ar un adeg roedd y Comin o dan y môr ond dros amser trodd y môr yn fwy a mwy bas. Yn dilyn y môr bu cyfnod lle’r oedd yr ardal hon yn llawn corsydd a fflatiau llaid a oedd wedi eu gorchuddio gyda chyfoeth o lystyfiant anhygoel. Dros amser ffurfiwyd coedwigoedd yn yr ardal hon.
Ond gyda threigl a thro’r blynyddoedd, llithrodd yr ardal i’r môr unwaith eto a lledaenwyd tywod a mwd dros weddillion y coedwigoedd. O ganlyniad fe’u caewyd yn y ddaear ac fe’i trowyd yn wythiennau glo. O fewn y gwythiennau glo hyn mae toreth o ffosiliau sy’n dangos y math o dyfiant a chreaduriaid a fu’n byw yma ar un adeg: cyndeidiau’r crancod, y misgl a’r chwilod duon mawr.


Tywodfaen Pennant

Oherwydd y newidiadau cyson yn lefel y môr, ffurfiwyd sawl gwythïen lo yn ogystal â haenau o glai, siâl a thywodfaen. Ffurfiwyd tywodfaen Pennant yn y modd hwn a dyma’r garreg sy’n rhannu’r wythïn lo uchaf rhag y wythïen lo isaf.
Gallwch weld olion carreg Pennant led led y cymoedd. Mae hi i’w gweld yn y pentrefi a’r trefi sy’n amgylchynu’r Comin oherwydd dyma’r garreg a ddefnyddiwyd i adeiladu tai hynaf ein hardal. Carreg laslwyd yw hi ond wrth iddi wynebu’r elfennau mae hi’n troi’n frowngoch. Ar Gomin Gelligaer a Merthyr mae ambell i hen chwarel Pennant yn ymwthio o’r tir o hyd. Felly rhwng y glo – sy’n garreg feddal – mae haenau o garreg galetach y Pennant ac mae’r garreg hon, fwy neu lai’n, creu wal rhwng Fochriw a Bargoed ac un arall rhwng Bedlinog a Threlewis.









Y Cyfnod Rhewlifol
Yn nes ymlaen daeth y cyfnod rhewlifol pan teyrnasodd amodau Arctaidd dros y rhan fwyaf o ogledd orllewin Ewrop. Pentyrrodd yr eira a throdd hwn yn ei dro yn iâ.
Toddodd yr iâ rhyw 20,000 o flynyddoedd yn ôl a gadawyd cefnau o ro ar hyd y Caiach yn Nelson ac ar hyd y Cylla yn yr ardal lle’r arferai pwll glo Penallta sefyll. Roedd nant Cwm Bargod – sy’n llifo o Gomin Gelligaer a Merthyr ac i mewn i’r Taf – yn arfer llifo i lawr at Ystrad Mynach. Un theori am ei gwyriad yw mai rhewlif a rwystrodd llif y nant a’i gorfodi i newid ei hynt a llifo tua’r Taf yn lle. Mae’r Cwm gwag – am iddo golli ei afon – sy’n cysylltu Nelson ac Ystrad Mynach yn cael ei adnabod, yn ddaearegol yn ‘fwlch gwynt’.
Nid yw tir y Comin yn edrych yn union fel y’i ffurfiwyd gan y rhewlifoedd. Ers y cyfnod hwnnw bu ambell i dirlithriad. Yn benodol bu cyfres o dirlithriadau mawr yn nwyrain y meysydd glo yn y man lle gorwedda carreg galed y Pennant ar greigiau mwy meddal. Gan fod y graig oddi tan y Pennant yn feddal mae’n erydi’n hawdd a dyma fu’n gyfrifol am y tirlithriadau i mewn i’r cwm. Ceir enghreifftiau o dirlithriadau bach o’r math hwn ger Treodrhiwfuwch a hefyd i’r de o Fochriw.



Fast Gelligaer





Os ydych yn cerdded o faes parcio Pengarn Bugail tua’r gogledd ar hyd y Comin, neu’n teithio ar yr hewl i gyfeiriad Pentwyn o’r de, byddwch yn pasio, ar y chwith, carreg hir yn pwyso ar ei ogwydd i gyfeiriad dwyreiniol. Yn lleol, gelwir y garreg hon y Garreg Waun Hir ac yn ôl yr hanes mae yno filwr Rhufeinig wedi ei gladdi oddi tani. Ond os edrychwch i’r gorllewin, o flaen y Garreg Waun Hir, fe welwch rwyg yn nhir y Comin. Dyma yw Ffawt Gelligaer. Ymlwybra dros y tir i gyfeiriad y gogledd orllewin. Weithiau ymddengys fel cribyn bychan ac os dilynwch ei llwybr, yn nes ymlaen yn yr ardal hon mae’n ymddangos fel hollt. I ddefnyddio disgrifiad y Daearegydd Dyfed Elis-Gruffydd, mae ffawt yn:
“doriad mewn dilyniant o greigiau lle mae’r creigiau’r naill ochr a’r llall i’r plân ffawt wedi symud mewn perthynas â’i gilydd.”
Yr hyn sy’n brydferth am y ffawt hon yw bod modd i ni ei gweld uwchben y ddaear. I’r glowyr roedd y ffawt yn amlwg iawn o dan y ddaear hefyd oherwydd roedd fel petai’r wythïen lo’n diflannu. Yn is i lawr, yn y cwm hwnnw a gollodd ei afon, mae Ffawt Gelligaer yn amlygu ei hun ar ffurf clogwyni Penallta.
Crëwyd y ffawt hon, ynghyd a’i chwiorydd o fewn Maes Glo De Cymru, rhyw 280-340 miliwn o flynyddoedd yn ôl – y rhif hwnnw unwaith eto sy’n anodd i ni ei amgyffred. Mae’r ffawt yn gyswllt gweladwy i orffennol mor bellennig nes iddo sefydlu parch ynom at y tir. Hyd yn oed os ydy’r manylion yn celu rhagom, rwy’n meddwl bod rhywbeth y tu fewn i ni gyd sy’n greiddiol ymwybodol ein bod yn ymwneud â rhywbeth hynafol wrth inni droedio’r dirwedd hon.















