Mewn cae y tu ôl i Res Coly ym Medlinog, ac ychydig i’r gogledd ohono, ar waelod llethrau Gilfach yr Encil, mae yno bwll ddŵr hyfryd. O’i amgylch tyfa nifer o fedw arian ac ar erchwyn y dŵr mae brwyn a gwair a rhedyn yn tyfu. Mae’n hafan i fywyd gwyllt ac yn le arbennig i eistedd mewn llonyddwch ac i brofi prydferthwch y natur o’n cwmpas.

Fel nifer o byllau’r Comin, nid pwll naturiol mo hwn. Ond, lle’r oedd y pyllau eraill yn gysylltiedig â’r diwydiannau glo neu ddur, gwnaed y pwll gan y Luftwaffe yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cynhelir Sul y Coffa bob mis Tachwedd, er mwyn cofio’r sawl a fu farw yn y ddau ryfel byd ond hefyd ym mhob gwrthdaro a fu ers hynny. Mae Lleng Frenhinol Prydain yn trefnu Apêl Flynyddol y Pabi ac yn cynhyrchu’r enwog babi coch. Ond mae yno hefyd babi wen sy’n cael ei chynhyrchi gan Gymdeithas y Cymod. Gwisgir y pabi gwyn er mwyn cofio nid yn unig y rhai a fu farw wrth ymladd ond pob un person sydd wedi dioddef yn sgil erchyllterau rhyfel – yn cynnwys dinasyddion preifat. Mae gwisgo’r pabi gwyn yn dangos y deheuad am heddwch.




Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn dwyn i gof y bom a gwympodd ar Fedlinog yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhoddir gwahanol ddyddiadau mewn gwahanol lefydd ond yn ôl Carwyn Hughes, sydd wedi ysgrifennu i Gymdeithas Hanesyddol Gelligaer, gollyngwyd y bom gan y Luftwaffe ddydd Mercher yr 31ain o Orffennaf 1940. Ar y pryd, roedd nifer o ddynion Bedlinog i ffwrdd, yn brwydro mewn llefydd pellennig yn Affrica ac Ewrop. Ond ar y noson honno o haf, nôl ym Medlinog, chwalwyd ffenestri’r tai ger Rhes Coly gan y ffrwydrad.

Ysgrifenna Carwyn Hughes: “Roedd fy mam-gu a’m Tad-cu, a oedd yn byw gerllaw yn Nheras Hylton, yn ddigon anffodus i gael plaster y nenfwd yn disgyn ar eu pennau yn y gwely, felly pan ymddangosodd y ddau o’u hystafell wely roeddent yn edrych fel pâr o ysbrydion mewn amwisgoedd.”
Diolch byth, ni anafwyd unrhyw un ym Medlinog.
Ni chafwyd erioed reswm pendant dros ollyngiad y bom ond mae yno wahanol ddamcaniaethau. Un stori yw bod yr awyren wedi dechrau mynd i drafferthion a bu’n rhaid iddo waredu ar y bom er mwyn lleihau’r pwysau roedd yn ei gario ac felly osgoi gwrthdaro neu ffrwydrad. Yn ôl un stori leol, roedd y RAF wedi ymlid y Luftwaffe gan achosi i’r awyren Almaeneg ollwng y bom mewn ymgais i hedfan yn gynt a dianc o’r RAF. Yn ôl stori arall eto, y rheilffordd a oedd yn rhedeg o Ddowlais a heibio Bedlinog oedd y gwir darged. Beth bynnag oedd y rheswm, y noson honno gollyngwyd bomiau hefyd yn y Bari, Pont-rhyd-y-fen a Mynwy.



Dyma ddyfyniad arall o ddarn Carwyn Hughes o Gymdeithas Hanesyddol Gelligaer:
“O fewn ‘ein’ hardal bu ymosodiad ar Benpedairheol ar yr 16eg o Ragfyr 1940; Tredegar/ Rhymni ar yr 20fed o Chwefror 1941 a Phengam ar y 5ed o Awst 1942. Ar noson y 29ain o Awst 1940 roedd yno 24 ymosodiad ar Forgannwg ac 17 ar noson y 18fed o Ionawr 1941. Canolbwyntiodd y rhain ar borthladdoedd Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe.”


Mae yno ryw deyrnged anfwriadol i heddwch yn y pwll hwn sy’n llawn bywyd – i feddwl y gall dechreuad mor dreisgar arwain at doreth o blanhigion, pryfaid a bywyd gwyllt yn ffynnu yma. Mae natur yn groesddywediad – ei brysurdeb, canu’r adar, siffrwd y dail, sŵn y gwynt – cymaint o symud a thyfiant – ac ar y cyd â’r grwnan, y llonyddwch. Mae’r heddwch mae’n ei ysgogi yn anhygoel o brydferth.
Diolch i John Ninnis am roi caniatâd i ni ddefnyddio ei ffilm sy’n deyrnged dyner i bwll y bom:
Golygfeydd o’r Comin


















