Dydd Mercher 18fed o Fawrth 2026 – Sesiwn i Blannu COed

Ymunwch â ni am 9:30 y bore ar gyfer sesiwn i blannu coed ar y Comin. Cofiwch wisgo esgidiau cadarn a dillad sy’n addas ar gyfer yr amodau. Byddwn yn darparu unrhyw offer angenrheidiol.

Llun o un o goed y Comin sydd uchod ac nid o reidrwydd llun o’r man lle fyddwn yn gweithio. Gweler y map gyferbyn ar gyfer yr union fan cyfarfod.

Mae croeso cynnes i bawb! Diolch i bawb sy’n ein helpu!

 

© 2026 Comin Gelligaer a Merthyr