Dydd Mercher 18fed o Fawrth 2026 – Tanau Gwylltion ar y Comin: Cyflwyniad

Er mwyn dathlu diwedd ein prosiect diweddaraf, rydym wedi trefnu cyflwyniad yn y Ganolfan Ddringo rhwng Bedlinog a Threlewis.
Bydd aelod o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n ymuno â ni er mwyn trafod peryglon ehangach tanau gwylltion ac i egluro’r gwaith maent yn ei wneud gyda thirfeddianwyr a phartneriaid eraill er mwyn mynd i’r afael â’r peryglon hyn.
Rydym hefyd yn gobeithio y bydd Pennaeth Ystadau a Chefn Gwlad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymuno â ni. Byddwn yn clywed am y ffyrdd mae’r Parc Cenedlaethol agosaf atom yn delio gyda pheryglon tanau gwylltion.
Bydd y drysau’n agor am 18:30 er mwyn i ni gychwyn am 18:40.
Mae croeso cynnes i bawb!
Cysylltwch â ni
Ymweld â’r comin
© 2026 Comin Gelligaer a Merthyr
