Comin Cydweithredol

Roedd Comin Cydweithredol (Common Connection) yn brosiect graddfa tirwedd dwy flynedd a oedd yn canolbwyntio ar dri maes gwaith allweddol:

  • Mynd i’r afael â throsedd tirwedd
  • Ymgysylltu â’r Cyhoedd
  • Adfer a Chreu Cynefinoedd

Roedd ymgysylltu â’r gymuned ac ysgolion yn elfen allweddol o’r prosiect, gyda chyfleoedd i aelodau’r cyhoedd ac ysgolion lleol yn cael eu darparu i gymryd rôl ragweithiol wrth gynnal a chadw’r comin.

Cynhaliwyd sesiynau gwirfoddol rheolaidd, ac anogwyd ysgolion lleol i archwilio a dysgu am y comin, ei hanes a’i bwysigrwydd i’r ardal leol.

Gweithiodd y prosiect yn agos gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol ac mae’n ddyledus iddynt am y gefnogaeth a ddarparwyd ganddynt. Gellir lawrlwytho adroddiad gwerthuso diwedd y prosiect yma.

Common Land - Gelligaer and Merthyr Common
Common Land - Gelligaer and Merthyr Common

Derbyniodd prosiect Comin Cydweithredol grant gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) ar gyfer ei brosiect Cynllun Rheoli Cynaliadwy a ariennir drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

EU Funders Logo