Yr Ehedydd
Yr Ehedydd
gan Dafydd ap Gwilym
Oriau hydr yr ehedydd
a dry fry o’i dŷ bob dydd,
borewr byd, berw aur bill,
bardd â’r wybr, borthor Ebrill.
Tua diwedd mis Ebrill, gyda’r brwyn yn prysur dyfu’n ôl ar weundir y Comin, bydd yr ehedydd yn dechrau nythu. Mae’r ehedydd yn aderyn sy’n trigo ar dir amaethyddol a thir uchel ill dau ac felly mae’r Comin – sy’n gymysgedd o’r ddau fath hwn o dirwedd – yn gynefin perffaith iddo. I fenthyg disgrifiad Iolo Williams:
“Mae ganddo grib fer, stribynnau clos ar ei fron a bol gwyn. Andain dringlong ac iddi ymyl ôl gwyn, amlwg. Cefn brith melynfrown â smotiau mwy ar yr ysgwydd. Smotiau bach ar y cap, rhimyn golau uchwlaw’r llygad. Trwch gweddol o big finiog (ond yn fwy main na phig Aderyn y To). Mae canol y gynffon yn olau, ceir ply tywyllach ar y nail ochr a’r llalll ac mae’r plu allanol yn wyn. Coesau pinc golau a chrafanc ôl mawr.”
Cynefin
Mae’r ehedydd yn byw yma ar y Comin drwy godol y flwyddyn a byddwch yn clywed ei drydar ar unrhyw ddiwrnod heulog, braf, waeth beth fo’r tymor. Ond ym mis Ebrill, gyda’r haf yn agosáu, clywir ei gân yn amlach fyth. Mae yno rhywbeth trydanol i’w gân, bron fel y sŵn a geir mewn gêm fidio. Mae nifer ohonynt yn nythu ar uncheldiroedd Cymru ond, yn anffodus, prinhau y maent.







Gallwch eu gweld yn hedfan yn unionsyth i’r awyr las ac yn canu a chanu eu trydar rhyfeddol. Gall y weithred hon o hedfan-ganu bara hyd at awr ac yn ystod y perfformiad hwn maent yn gallu cyrraedd uchder o 300m cyn plymio’n ôl lawr i frwyn a gwair y Comin.
Rydych hefyd yn eu gweld yn eistedd ar bolyn ffens neu hyd yn oed yn eistedd ar frig uchaf un o’r brwyn – ‘berw aur bill’ fel y dywedodd Dafydd ap Gwilym. Maent yn aml i’w gweld ger ardal Carn Bugail ac hefyd yn yr ardal rhwng grid gwartheg heol ffarm Bedlinog ac ardal Pen Marc.


Yr Ehedydd Mewn Cerdd a Chân

Mae’r ehedydd yn aderyn sydd wedi ysbrydoli sawl bardd. Daw’r pennill ar ddechrau’r darn hwn o gywydd ‘Yr Ehedydd’ gan Dafydd ap Gwilym. Ysbrydolwyd y telynor Dafydd y Garreg Wen (1712–1741) gan yr ehedydd hefyd ac arweinodd hwn ato’n cyfansoddu cân amdano o’r enw ‘Codiad yr Ehedydd’.
Gallwch wrando arni fan hyn:

Credir mai ‘Marwnad yr Ehedydd’ yw un o ganeuon traddodiadol hynnaf Cymru. Mae yno si mae un o ddilynwyr Owain Glyndŵr ysgrifennodd y gân ac mai’r ehedydd y sonia amdano yw Owain Glyndŵr ei hun:
Mi a glywais fod yr ’hedydd,
Wedi marw ar y mynydd;
Pe gwyddwn i mai gwir y geiria’,
Awn â gyr o wŷr ac arfa’,
I gyrchu corff yr ’hedydd adra’.
Gallwch wrando ar y gân yn ei chyfanrwydd fan hyn:
Taith Gerdded yr Ehedydd
Crëwyd map o Daith Gerdded yr Ehedydd er mwyn rhoi’r cyfle gore posib i ymwelwyr y Comin gael cipolwg o’r aderyn rhyfeddol hwn sydd wedi ymgartrefi yn ein tirlun. Os edrychwch o dan y lluniau ar ddiwedd y darn hwn, byddwch yn dod o hyd i fap o’r daith gerdded. Mae’r wâc yn un hyfryd. Byddwch yn gweld gwaith glo Ffôs y Fran, Pen y Fan tua’r gogledd a Phen y Fal i’r dwyrain. Os fyddwch yn cerdded y llwybr hir byddwch yn gweld, ar ddiwrnod clir, llinell ddisglair y Môr Hafren. Mae mis Ebrill, a’r haf sydd ar gyrraedd, yn adeg hyfryd i gerdded y Comin. Ewch â’ch spienddrych, sylwch ar ben ucha’r brwyn neu’r polion ffens ger ymylon y Comin – a mwynhewch y canu.





















