Coedwigoedd Collddail Hynafol

Yn ystod mis Chwefror gall Comin Gelligaer a Merthyr edrych yn foel ac yn noethlwm. Rydym yn ei adnabod yn ystod y gaeaf fel gweundir agored dan haenen drwchus o niwl. Er, yn ei anterth, mae’r tirlun yn llawn rhedyn, eithin, glaswellt grug, mwsogl ac aeron.
Er moelni’r gaeaf, os edrychwch yn ofalus gellir gweld bod y ddaear yn bendant yn dechrau dihuno… Y mis hwn bydd egin gwyrdd yn dechrau ymddangos ar lawr ac wrth ichi edrych lan tuag at y coed sydd ar wasgar fan hyn a fan draw ar hyd y Comin, byddwch yn sylwi ar arwyddion cynnar y gwanwyn fan hyn hefyd.
Er mae coeden fach fan hyn a fan draw a geir ar y Comin, ar un adeg rhwng heddiw a’r Oes Iâ ddiwethaf, byddai’r rhan fwyaf o’r tirlun – y rhan ohono sydd hyd at 450 metr uwchben lefel y môr – wedi ei orchuddio gan goedwigoedd collddail. Yn y de gorwedda tir y Comin 200 metr uwchben lefel y môr ac mae’n codi wrth fynd tua’r gogledd. Y pwynt uchaf yw Carn Bugail lle dengys y piler triongli ei fod yn sefyll 477 metr uwchben lefel y môr.Yn ei llyfr Gelligaer and Merthyr Common dywed Judith Jones y byddai diflaniad y coedwigoedd hyn a thrawsnewidiad y tirlun i’r hyn a welwn erbyn heddiw wedi cymryd milenia a byddai’r newid hwn wedi digwydd yn ystod y cyfnod cyn hanes. “Ni fyddai un ffactor unigol wedi arwain at y llystyfiant presennol, bu newid hinsawdd, pori anifeiliaid gwylltion yn ogystal â chliriad bwriadol gan ddyn ar gyfer amaethyddiaeth, byddai’n rhaid bod y cliriad hwn wedi ei gynnal drwy ffermio tir âr a phorfelaeth anifeiliaid.”
Coed y Comin

Hyd yn ddiweddar, ambell i goeden fan hyn a fan draw a welwyd ar y Comin, a’r rhan fwyaf o’r rheini yn ymddangos ar Gefn Gelligaer. Maent yn goed unigol, hunan-hadog sy’n dangos y byddai coedwigoedd efallai’n gorchuddio’r Comin unwaith eto petai llai o bori’n digwydd a phetai natur yn cael ei ffordd heb ymyrraeth. Mae yno gerddinen ger Capel Gwladys ac un arall ger capel Craig Fargod. Mae yno hefyd glwstwr bach o ynn yn tyfu ymysg adfeilion Pen Marc. Saif gwernen ger fferm Nantwen a ffawydden ger fferm Clwydtrawscae. Ar y llethr ger Nant Ddu mae bedwen arian ac ymhellach ar yr un llethr tuag at y gogledd gellir gweld y gelynnen yn tyfu.

Mae lleoliad y coed hyn mor ddiddorol. Mountain Ash yw un o’r enwau Saesneg am y gerddinen am ei bod hi’n aml yn tyfu ar dir uchel. Yng Nghymru byddai’n cael ei gosod y tu allan i’r cartref er mwyn gwarchod y teulu rhag niwed. Byddai hefyd yn cael ei phlannu y tu fas i’n capeli er mwyn gofalu am eneidiau ein meirw. Dyna ddiddorol, felly, eu bod yn tyfu ger Capel Gwladys a chapel Craig Fargod. Yr enw Cymraeg gwreiddiol am bentref Nelson yw Ffos y Gerddinen. Felly mae hi’n goeden bwysig yn ein hardal ni.
Mae’r wernen yn hoffi dŵr ac yn aml fe’i gwelir yn tyfu ger afonydd a nentydd. Unwaith eto mae’n ddiddorol gweld bod yno wernen yn tyfu’n agos at ffarm Nantwen.
Mae yno brydferthwch i amlinell dywyll y coed hyn yn erbyn awyr o liw a baentiwyd gan haul isel y gaeaf. Erbyn mis Chwefror, os edrychwch arnynt yn ofalus, gellir gweld bod y blagur wedi dechrau tyfu unwaith eto. Arwydd bod y gwanwyn ar ei ffordd yn dawel bach, wedi’r cwbl.
Tynnwyd y llunniau arbennig yn y blog hwn gan yr artist @pollylovestudio





