Myfyrdodau o’r Comin: Gorffennaf 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Gorffennaf 2025

Trosolwg Byr o Ddaeareg Comin Gelligaer a Merthyr Pan mae’r haf yn ei anterth, does yno ddim byd prydferthach na Chomin Gelligaer a Merthyr. Gorwedda’r gweundir hwn yng ngogledd Maes Glo de Cymru. O edrych ar y dirwedd, yr hyn sy’n eich taro yw’r meithder dirfawr ac...
Myfyrdodau o’r Comin: Mehefin 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Mehefin 2025

Pwll Rhos Las / RhasLas yw’r enw ar y map OS. Golygfeydd prydferth ger pentrefi colledig Pantywaun a Blaen Carno. Ym mis Mehefin 1831, draw yn nhref Merthyr, dros gribyn Cefn Merthyr, cafwyd un o’r gwrthryfeloedd mwyaf gan weithwyr yn erbyn yr haearn-feistri a’r...
Myfyrdodau o’r Comin: Mai 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Mai 2025

Mai – a’r haf ar gyrraedd. Mae bywyd gwyllt y Comin yn ffynnu ac yn enfys o liwiau: melyn y grug, gwyrdd llachar y glaswellt a’r brwyn newydd, pinc a phorffor y gwair a’r blodau gwyllt sy’n byrlymu o’r ymylon a choch tywyll hefyd yn rholio o’r perthi. Clywir cân yr...
Myfyrdodau o’r Comin: Ebrill 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Ebrill 2025

Yr Ehedydd Yr Ehedydd Oriau hydr yr ehedydda dry fry o’i dŷ bob dydd,borewr byd, berw aur bill,  bardd â’r wybr, borthor Ebrill.gan Dafydd ap Gwilym Tua diwedd mis Ebrill, gyda’r brwyn yn prysur dyfu’n ôl ar weundir y Comin, bydd yr ehedydd yn dechrau...

Myfyrdodau o’r Comin: Mawrth 2025

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd! Ac erbyn diwedd y mis gobeithio y bydd yn teimlo’n fwy fyth fel y Gwanwyn.Dydd Sadwrn y 1af o Fawrth yw Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru wrth gwrs – diwrnod a neilltuwyd ers canrifoedd i ddathlu Cymru a Chymreictod. Mae ein hanthem...