Myfyrdodau o’r Comin: Rhagfyr 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Rhagfyr 2025

Wrth ystyried y Comin yn y Gaeaf, daw i’r meddwl foreau oer o farrug, patrymau pigog o iâ ar lafnau’r gwair a lliwiau dwfn y machludon cynnar. Mae’r tymor tywyll hefyd yn golygu mwy o law, gwyntoedd cryfion a chyfnodau o gymylau isel. Wrth i ni nesáu at y Nadolig,...
Myfyrdodau o’r Comin: Tachwedd 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Tachwedd 2025

Mewn cae y tu ôl i Res Coly ym Medlinog, ac ychydig i’r gogledd ohono, ar waelod llethrau Gilfach yr Encil, mae yno bwll ddŵr hyfryd. O’i amgylch tyfa nifer o fedw arian ac ar erchwyn y dŵr mae brwyn a gwair a rhedyn yn tyfu. Mae’n hafan i fywyd gwyllt ac yn le...
Myfyrdodau o’r Comin: Hydref 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Hydref 2025

Mae yno rywbeth am gadnoid sy’n awgrymu’r Hydref. Efallai mai lliw eu cot sy’n ein hatgoffa o liw’r dail crin neu efallai am fod y dyddiau’n byrhau bod mwy o siawns ein bod yn crwydro o amgylch y lle ar yr un adeg ag y mae’r cadno’n ymlwybro nôl i’w wâl wedi noson o...
Myfyrdodau o’r Comin: Medi 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Medi 2025

Medigan IsfoelY llwyni canau yn llawnionAfalau filoedd yn fochgochionBrithwyd y berth hyd y bônYn dew gan fwyar duon Mae mis Medi’n gyfnod o lawnder a ffrwythlondeb: y cnau, y caeau, y ffrwyth ac yn aml ceir awyr uchel las dwfn. Ond clywn hefyd sibrydion y gaeaf a...
Myfyrdodau o’r Comin: Awst 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Awst 2025

Y Gylfinir Does dim byd sy’n dynodi’r Gwanwyn a’r Haf yn fwy na chân fyrlymus y gylfinir – neu Pegi Big Hir i roi un o’u henwau eraill iddi. Rydym yn ofnadwy o lwcus yn yr ardal hon i allu clywed y Gylfinir ac i fod yn gartref iddi yn ystod misoedd yr haf...