Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd! Ac erbyn diwedd y mis gobeithio y bydd yn teimlo’n fwy fyth fel y Gwanwyn.
Dydd Sadwrn y 1af o Fawrth yw Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru wrth gwrs – diwrnod a neilltuwyd ers canrifoedd i ddathlu Cymru a Chymreictod.

Mae ein hanthem genedlaethol yn rhan bwysig o hunaniaeth Cymru ac yn arwyddocaol o ddathliadau ein gwlad. Yn ddiddorol, mae yno gysylltiad agos rhwng Comin Gelligaer a Merthyr a’r bardd Efan James – a ysgrifennodd eiriau’r anthem.
Does neb yn gwybod pa un ddaeth gyntaf – geiriau Efan James ynatu’r dôn gan ei fab James James – ond pa un bynnag ydoedd, enw’r gân i ddechrau oedd Glan Rhondda (efallai am mai yng nghwm Rhondda roedd Efan James yn byw pan ysgrifennwyd y eiriau ganddo).
Ein hanthem genedlaethol ni oedd yranthem gyntaf a berfformiwyd cyn unrhyw gêm chwaraeon. Digwyddodd ym 1905 pan ddaeth tîm rygbi Seland Newydd ar daith i chwarae yn erbyn tîm Cymru a chyn y gêm perfformiwyd yr Haka ganddynt. Mewn ymateb i hynny canodd tîm Cymru a’r dorf Hen Wald fy Nhadau yn ôl atynt.


Ffarm Ffos-yr-Hebog




Mae Ffos-yr-Hebog yn ffarm ar Gefn Gelligaer yn yr ardal rhwng Deri a Bedlinog. Fe’i adweinir orau erbyn heddiw yn fan lle mae’r cwmni Howells yn cadw eu bysys. Ond ym 1841 roedd yn ffarm 27-erw ac mae’n dal i’w weld ar fap OS hyd heddiw gyda system gaeau sy’n debyg iawn i’r hynny a fodolai ym 1841.
Nid oes llawer o wybodaeth unigol am yffarm oherwydd yn yr 16eg ganrif roedd yn eiddo i berchnogion ffarm Bryn-rhe ac yn y17eg a’r 18fed ganrif roedd yn eiddo i berchnogion ffarm Glan-y-March. O ganlyniad mae ychydig o hanes Ffos-yr-Hebog i’w ganfod ymhlith hanesion yffermydd eraill hynny.
Ond ym 1826 rydym yn gwybod y bu i Elizabeth Williams a oedd yn wraig weddw, briodi Efan James yr hynna a oedd yn ŵr gweddw. Priododd y pâr yn Eglwys Sant Catwg yng Ngelligaer ar yr22ain o Ragfyr y flwyddyn honno. Roeddent yn byw yn Ffos-yr-Hebog ac mae yno dystiolaeth o drethi’r cyfnod sy’n dangos mai Efan James oedd yn talu trethi’r ffarm ac hefyd mai ef oedd yperchennog – ond ar ran ei wraig y byddai hynny wedi ei olygu. Erbyn 1841 roedd ypâr wedi symud i Glyn Coch y tu allan i Bontypridd.
Ysgrifennodd mab Evan James, sydd â’r un enw a’i dad, gerdd am ei atgofion o Ffos-yr-Hebog. Yn y gerdd mae’r bardd yn cerdded i weld ei dad a’i lysfam yn ffarm Troed-Rhiw’r-Trwyn ger Pontypridd ac wrth gerdded yno, mae’n cofio’n felys am gyfnod o’i blentyndod yn Ffos-yr-Hebog ar Gefn Gelligaer. Dyma’r un Evan James a ysgrifennodd ein hanthem genedlaethol. Gweler ei gerdd sy’n sôn am gyfnod pan fu’n byw yn Ffos-yr-Hebog isod.
Yn y Gymraeg yr ysgrifennwyd y gerdd yn wreiddiol ond fe’i chyfieithwyd i’r Saesneg gan yr hanesydd a’r Comwinydd Gwyn Griffiths. Cyhoeddwyd y gerdd yn y llyfr The Author of Our Anthem – Poems by Evan James; ysgrifennwyd y llyfr hwnnw gan Gwyn Griffiths ac fe’i gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch.



Atgof gan Evan James
Yn unol a’m haddewid
Mi ddes i lan yn fwyn
I weled fy rhieni
Sy’n byw yn Nhroed-rhiw’r-trwyn,
A tharo wnaeth i’m meddwl
Hen gofion am y lle
A elwid Ffos-yr-Hebog
Gerllaw i Frynyre.
Ces yno le cysurus
Ar un o fryniau’m gwlad,
Dan ofal gwyliadwrus
Fy llysfam fwyn a’m tad.
Cawn ymorth maethlawn blasus –
Tost, teisen, llaeth a thê –
A thoisyn ar rai prydau
Pan fyddai’n nhad o dre.
Wrth wal pendraw y Coedca
Eisteddais lawer awr,
Prydyddais rai caniadau
Ar fin y mynydd mawr;
Doedd yno fawr o ddynion
Er hynny teimlais fwyn
Hoff natur i’m diddanu
‘Mhlith eithinn, grug a brwyn.
Wrth ffynnon bwll y Coedca
Mawr y prydyddu fi,
Fy llysfam weithiau’n pipian
‘Nôl hynny wip i’r tŷ.
Hi geisiau fy mherswadio
Y gwnawn brydyddu’n well
Ond cael ‘long pipie’ i smocio
Gerllaw i dan y gell.
Bu gennyf ddafad unwaith,
Cadd lond ei bol o fwyd,
Ond, och fi! hon fu farw
Rhwng gwal a phost y glwyd.
Mi wneuthum farwnad iddi,
Er mwyn cael ysgafnhad
I’m hiraeth – mae’r gân honno
Yn rhywle gan fy nhad.
Rhy anodd i’m atgofio
Yr holl hen droeon fu
Gerllaw i’r Mynydd Mawnog
Dan nawdd rieni cu.
Er gadel Ffos-yr-Hebog
Mor annwyl gennyf yw
Cael gweld fy serchog lysfam
A’m parchus dad yn fyw.
Diolch yn fawr iawn i Gymdeithas Hanes Gelligaer am y wybodaeth ynghylch ffarm Ffos-yr-Hebog a’i gysylltiad gyda bardd ein hanthem genedlaethol, Evan James. Cymerwyd y wybodaeth o’u cyhoeddiad Parish of Gelligaer The Farms and Their Families 1580-1840 Rhifyn 3.







