





Ym mis Mehefin 1831, draw yn nhref Merthyr, dros gribyn Cefn Merthyr, cafwyd un o’r gwrthryfeloedd mwyaf gan weithwyr yn erbyn yr haearn-feistri a’r dosbarth cyfalafol.
Roedd yr hyn a gyflawnwyd gan weithwyr Merthyr Tudful a’u cydweithwyr yn Aberdâr, Penderyn a’r cyffiniau yn anhygoel ac atseiniodd yr effeithiau drwy weddill hanes. Tra’r oedd yr haearn-feistri’n byw mewn tai crand roedd pobl Merthyr yn llwgu eisiau bwyd. Roedd eu cyflogau’n isel, prisiau bwyd yn uchel a phan nad oeddent yn gallu talu’r rhent byddai’r Llys Deisyfion yn cymryd eu heiddo oddi wrthynt.
Roedd gweithwyr Merthyr wedi cael digon. Roeddent wedi ceisio newid y sefyllfa drwy drafodaethau ond daeth y cyfan i ddim, felly yn y diwedd gorfododd y gweithwyr y meistri i wrando. A chychwynnodd y cwbl ar Gomin Gelligaer a Merthyr.
Rhagflaenodd y digwyddiad hwn – y terfysg a drefnwyd gan ddosbarth gweithiol Merthyr Tudful a’r cyffiniau – fudiad y Siartwyr. Dyma hefyd oedd un o’r gweithredoedd y tu ôl i sefydlu’r undebau llafur sy’n brwydro hyd heddiw dros hawliau gweithwyr a safonau gwell i gymdeithas yn gyffredinol. Mae’r hawliau hyn – hawliau y mae gweithwyr wedi brwydro amdanynt dros y canrifoedd a’r degawdau – yn cynnwys pethau fel diwrnod gwaith wyth awr, wythnos waith pum diwrnod, cyflog gwyliau, cyflog salwch, gofal iechyd am ddim, addysg am ddim, cyflog mamolaeth. Maent yn hawliau a enillwyd gan weithwyr ac undebau llafur. Ni chawsom unrhyw hawliau erioed o ganlyniad i garedigrwydd y perchnogion a’r sawl sy’n ein llywodraethu. Meddai’r hanesydd Gwyn Alf Williams:
“Ym Merthyr Tudful ym 1831, daeth cyfnod cynhanes y dosbarth gweithiol Cymreig i ben. Dyma gychwyn ei hanes.”

Rôl Comin Gelligaer a Merthyr yn y Derfysg
Er yr ymwybyddiaeth ynghylch Terfysg Merthyr ychydig sy’n ymwybodol, efallai, mai ar Gomin Gelligaer a Merthyr y trefnwyd y terfysg mewn cyfarfod a drefnwyd yn Ffair y Waun. Cynhaliwyd y ffair ger Pant y Waun – un o bentrefi diflanedig y Comin a ddymchwelwyd yn llwyr yn ystod y 1960au er mwyn galluogi gweithio glo brig.

Trefnwyd y cyfarfod tyngedfennol ar Gomin Gelligaer a Merthyr ar y 30ain o Fai 1831. Roedd trefniant o’r fath yn beth cyffredin, yn rhyw fath o draddodiad hyd yn oed – cyfarfod cyffredinol o weithwyr yn ystod Ffair y Wain. Roedd y lleoliad yn le da ar gyfer digwyddiad o’r fath oherwydd roedd hefyd yn hawdd i weithwyr Sir Fynwy ei gyrraedd ar droed. Cynhaliwyd y cyfarfodydd anferthol hyn o weithwyr yn ysbeidiol ond yn ddigon aml i allu ymateb i newidiadau mewn cyflogau ac amodau gwaith.
Un o’r gweithwyr arbenigol yn y gweithfeydd haearn oedd y Pwdlers. Byddai’r dynion hyn yn gweithio yn y ffwrnais bwdlo yn troi haearn crai yn haearn gwaith. Roedd yn waith arbenigol oherwydd roedd yn rhaid gwybod yn greiddiol pa bryd roedd y peli haearn yn barod ar gyfer y cam nesaf – nod oedd modd i beiriant wneud hwn. Bywyd byr fyddai ffawd y Pwdlers, fel arfer byddant yn marw yn ystod eu 30au.
Felly roedd yn arferol i’r Pwdlers, er enghraifft, ddefnyddio’r cyfarfodydd hyn yn Ffair y Waun i ennill gweithwyr eraill at eu hachos a chefnogi eu galwad am amodau a chyflogau gwell. Meddai Gwyn Alf Williams:
“Y weithred a oedd siŵr o fod yn gyfrifol am gynnau’r terfysg oedd diswyddiad hynod anfodlon Crawshay o 84 pwdler.”.1
A’r dyn 32 mlwydd oed a gariodd baner goch y chwyldro yn ystod Terfysg Merthyr, siŵr o fod am y tro cyntaf erioed ym Mhrydain, oedd William Thomas Williams, un o Bwdlers William Crawshay. 2



Atgynhyrchwyd gada chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (am archif mwy manwl o Bantywaun a’r cyffiniau gallwch ymweld â https://maps.nls.uk/geo/find/#zoom=14.8&lat=51.76599&lon=-3.31431&layers=102&b=1&z=0&point=51.76157,-3.32070&i=null)
Gorymdeithio i’r Comin
Yr Ynad JB Bruce – un o reolwyr swyddogol Merthyr – a sylweddolodd gyntaf bod rhywbeth o bwys yn cael ei drefnu ar y Comin. Ysgrifennodd lythyron ar fyrder at Crawshay (haearn-feistr Cyfarthfa a Hirwaun) ac Anthony Hill (Ynad arall) er mwyn eu rhybuddio am y cyfarfod ond roedd y ddau i ffwrdd.
Amcangyfrifir y bu i rhwng 2,000 a 10,000 o bobl fynychu’r cyfarfod ar y Comin y diwrnod hwnnw. Ymgynullodd y dyrfa ryw can llath o Ffair y Waun.

















am ragor o fanylion a lluniau gallwch gefnogi ac ymweld â http://www.alangeorge.co.uk/
Ysgrifennwyd y llythyron gan Bruce chwe diwrnod cyn y rali ar Gomin Gelligaer a Merthyr. Roedd Bruce wedi dychryn pan glywodd am ddiswyddiad y Pwdlers – roedd yn ymwybodol iawn o’r canlyniadau posib. Roedd Crawshay i ffwrdd yng Nghaerleon. Roedd Guest (haearn-feistr Dowlais) i ffwrdd yn Llundain.
Yn eu hanesmwythder, ymgasglodd dosbarth uwch a llywodraethol Merthyr yn y Castle Inn yn y gobaith o reoli’r storm. Disgrifia Gwyn Alf yr olygfa:
“Roedd wynebau’r awdurdodau ym Merthyr yn llawn pryder yn ffenestri’r Castle Inn wrth iddynt wylio, ar ddydd Llun y 30ain o Fai, cannoedd o ddynion yn gorymdeithio trwy Ferthyr at y Waun y tu ôl i faner wen a’r gair ‘Diwygiad’ arni”.
Heddiw does dim arlliw o ddadwrdd y ffair na chythrwfl y gweithwyr. Yn ôl hen fap, roedd Pantywaun i’r gogledd o bwll Rhaslas – Rhos Las yw’r enw lleol. Adeiladwyd y pwll yn rhan System Ddraenio Dowlais ac fe’i cwblhawyd ym 1818. Mae’r pwll yn le pwysig i anifeiliaid sy’n pori ac i adar sy’n ymfudo yma dros y gaeaf.



Canlyniadau cyfarfod y Waun ar Gomin Gelligaer a Merthyr
Drannoeth y cyfarfod, pan aeth y beili i dŷ Lewsyn yr Heliwr er mwyn cymryd darnau o’i ddodrefn oddi wrtho am nad oedd wedi gallu talu rhent, fe’u stopiwyd gan bobl Blaencadlan a Phenderyn. Yn y pendraw, Lewsyn yr Heliwr fyddai un o brif derfysgwyr y gwrthryfel.
Ym Merthyr, taflwyd peli o dân drwy ffenestri Joseff Coffin, Arlywydd y Llys Deisyfion. Yn nes ymlaen y noson honno “disgynnodd yr hyn a oedd yn amlwg yn derfysg wedi ei threfnu, ar Ferthyr”. Cipiwyd y Llys Deisyfion gan y terfysgwyr a rhoddwyd eiddo’r bobl a gipiwyd gan y beili yn ôl i’w gwir berchnogion; cawsant afael ar arfau a bwledi; brwydrodd y terfysgwyr yn erbyn carfan o fyddin yr Ucheldirwyr a’u gorfodi ymaith; cafwyd brwydr arall rhyngddynt a charfan arall o’r fyddin – Iwmyn Abertawe – ac fe’u hanfonwyd hwythau ymaith i Gastell Nedd; ffurfiwyd catrodau o ddynion gan y terfysgwyr, rheolwyd yr ardal gyfan ganddynt a chaewyd pob hewl i Ferthyr ond un. Parhaodd y sefyllfa hon am wyth diwrnod. Roedd ehangder daearyddol y gwrthryfel yn helaeth ac yn ymestyn lawer ymhellach na chanol tref Merthyr yn unig.

Ni allwn drafod Terfysg Merthyr heb sôn am Dic Penderyn. Fe’i crogwyd yng Nghaerdydd ar y 13eg o Awst 1831 yn dilyn achos yn y llys ochr yn ochr â Lewsyn yr Heliwr. Fe’i cyhuddwyd o drywanu milwr, Donald Black, yn ei goes. Nid oedd yr anaf yn beryg bywyd. Trawsgludwyd Lewsyn yr Heliwr i Awstralia ond dienyddiwyd Dic Penderyn. Mynnodd ei fod yn ddieuog hyd y diwedd un. Ei eiriau olaf, wrth iddo gwympo o’r rhaff oedd “O Arglwydd, dyma gamwedd!”. Mae’n bwysig i ni gofio, drwy gydol y cyfnod treisgar, cythryblus hwn yn hanes ein hardal, wrth iddynt fynnu eu hawliau ac wrth iddynt drefnu a chymryd rhan yn y derfysg, mai iaith y dosbarth gweithiol hwn a frwydrodd yn llawn dicter dros gyfiawnder, oedd Cymraeg.
Erys Dic Penderyn yng nghof cyffredinol yr ardal, yn arwr dosbarth gweithiol. Bob blwyddyn cynhelir digwyddiadau gan Gymdeithas Dic Penderyn ym Merthyr er mwyn cofnodi’r cyfnod pwysig hwn yn ein hanes. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y gymdeithas drwy ymweld â’u gwefan https://www.dicpenderynsociety.com
Mae’r hyn a gyflawnwyd gan weithwyr Merthyr Tudful a’r cyffiniau’n anhygoel. Cafodd hunanfodlonrwydd y dosbarth cyfalafol ysgytwad a sylweddolodd y dosbarth gweithiol beth sy’n bosib ei gyflawni wrth uno yn erbyn anghyfiawnder.
Ac i feddwl mai yn y fan hon, ar Gomin Gelligaer a Merthyr, can llath o Ffair y Waun, y cychwynnodd y cyfan.

Daeth y dyfyniadau a llawer o’r wybodaeth yn yr ysgrif hon o’r llyfr anhygoel The Merthyr Rising gan Gwyn Alf Williams
Tynnwyd y lluniau diweddar ar gyfer yr ysgrif hon gan yr artist lleol @pollylove.studio diolch hefyd i Lyfrgell Genedlaethol yr Alban, yr artist Hablot Knight Browne a’r wefan http://www.alangeorge.co.uk/ am yr hen luniau







