Myfyrdodau o’r Comin: Mai 2025

5 May, 2025 | Newyddion

Mai – a’r haf ar gyrraedd. Mae bywyd gwyllt y Comin yn ffynnu ac yn enfys o liwiau: melyn y grug, gwyrdd llachar y glaswellt a’r brwyn newydd, pinc a phorffor y gwair a’r blodau gwyllt sy’n byrlymu o’r ymylon a choch tywyll hefyd yn rholio o’r perthi. Clywir cân yr ehedydd yn amlach erbyn hyn, dychwelodd y gylfinir ac os ydych yn lwcus byddwch yn clywed y gwcw hefyd, hyd yn oed. Mae’r tirlun yn teimlo’n fwy croesawgar rywsut, wrth i’r haf nesáu. Gan gadw’r pethau hyn mewn cof, byddwn yn edrych ar dystiolaeth sy’n dangos bod pobl wedi cael ei denu at y Comin yn ystod misoedd yr haf ers cyn cof.


Hafodau ar y Comin

Os cawsoch eich magu ger Comin Gelligaer a Merthyr, neu os ydych yn diddori mewn hanes lleol, efallai eich bod wedi clywed sôn am hafodau – neu dai haf – ar y Comin. Trigfannau wedi eu hadeiladu ar ucheldiroedd oeddent lle fyddai pobl yn byw yn ystod misoedd yr haf yn unig.

Canrifoedd a chanrifoedd yn ôl byddai amaethwyr, eu teuluoedd a’u hanifeiliaid wedi teithio o diroedd isel y Gaeaf i ucheldir Comin Gelligaer a Merthyr yn yr Haf ac wedi trigo yma o galan Mai hyd at ddiwedd Awst neu Fedi.

Cadarnhawyd y sïon hyn am hofodau’r Comin gan Iorwerth Peate, bardd ac ysgolhaig o Gymru a oedd hefyd yn un o sylfaenwyr Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan (ar y cyd â Cyril Fox). Serch hynny, mae yno dystiolaeth arall ar gael sy’n awgrymu nad hofodau oeddent mewn gwirionedd ond aneddleoedd parhaol lle fyddai pobl yn trigo drwy gydol y flwyddyn. Mae’r gwahaniaeth hwn mewn barn yn awgrymu bod angen rhagor o ymchwil efallai.


Tai Llwyfan Canoloesol

Pa un ai oeddent yn hafodau yntau’n aneddleoedd parhaol, gellir dod o hyd i dri grŵp o’r tyddynnod hyn ar y Comin: saith tŷ ger Dinas Noddfa, i’r gogledd ddwyrain o Fedlinog (i’r gorllewin o Garn Bugail); deg ger Craig Spyddyd, i’r gogledd o Ffarm Ysgwyddgwyn Uchaf, a sawl adeilad ar lethrau’r mynydd i’r gogledd o Dderi. Tai llwyfan oeddent sef enghraifft o dŷ-hir a adeiladwyd mewn i’r mynydd. Fel y mae Judith Jones yn egluro yn ei llyfr Gelligaer and Merthyr Common:

“…byddai’r pridd o’r turiad yn cael ei daflu i’r tu ôl er mwyn ffurfio ‘llwyfan’ neu ran flaen y tŷ. Byddai goleddf y to gwellt wedi bod yn isel a byddai wedi gorffwys ar waliau isel o gerrig ac wedi ei gefnogi gan drawst canolog oedd yn cael ei ddal yn ei union gan byst.”

Byddai’r tai wedi bod rhyw 60 troedfedd o hyd ac ugain troedfedd o led a gan eu bod wedi eu hadeiladu ar eu hyd mewn i’r mynydd byddai rhan o’r tŷ wedi sefyll ar lawr y bryn ei hun a’r rhan arall wedi gorwedd ar lwyfan a grëwyd o’r turiad. Yng nghanol y tai hyn roedd lle tân ac agoriad yn y to fyddai’n gadel i’r mwg ddianc.


Cloddfeydd ar Gomin Gelligaer a Merthyr

Ym 1936 a 1938 arweiniodd y Foneddiges Aileen Fox gloddfeydd yn Ninas Noddfa (i’r gorllewin o Garn Bugail) a hefyd yng Nghraig Spyddyd. (O ran diddordeb, roedd Aileen Fox yn briod â’r un Cyril Fox a grybwyllwyd ar ddechrau’r darn hwn am ei fod yn un o sylfaenwyr Sain Ffagan).

Dadleuodd Aileen Fox mai aneddleoedd parhaol oedd y strywthurau hyn, cartrefi fyddai’n cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Wrth drafod canfyddiadau Aileen Fox, dywed Judith Jones:

“mae nifer yr adeiladau ym mhob lleoliad; sylfeini’r walydd a oedd siŵr o fod yn gaeau caëdig; yn ogystal â’r cerrig gerllaw (cerrig beddi o bosib) yn sicr yn awgrymu mai aneddleoedd parhaol oedd y rhain ac nid hafodau yn unig, yn bendant, ar lawr ymddengys mai olion pentrefi bach ydynt.”


Ffoi o’r Gweundir

Rydym yn gwybod bod y Comin yn parhau i fod yn dirlun gweithredol, man lle mae natur a phobl yn cwrdd a lle dylanwadodd y ddwy elfen ar y tir a welwn heddiw. Mae’n dal i fod yn deimlad rhyfedd, serch hynny, i feddwl bod pobl wedi byw yma mor hir yn ôl a dychmygu’r cynnwrf cymdeithasol a berodd iddynt ymadael unwaith eto. Dywedodd Aileen Fox “Mae hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg yn ymddangos fel dyddiad terfynol tebygol i’r sawl a oedd yn byw yma”. Mae hi’n rhoi nifer o resymau dros y newid a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Byddai’r hen ffordd Gymreig o fyw wedi cael ysgytiad “o ganlyniad i ymlediad y dylanwad Saesnig”. Wedi gwrthryfel Llywelyn Bren ym 1326 – un o’r heriau difrifol olaf i’r awdurdod Eingl-normanaidd – achoswyd i bobl yr ardal hon ddioddef o ganlyniad i ddirwyon ac atafaeliadau a adawodd y gymdogaeth mewn cyflwr anghenus. Roedd Llywelyn Bren yn byw yng Ngelligaer ac fe’i hystyriwyd yn rhyfelwr dewr hyd y diwedd – hyd yn oed gan ei elynion. Cafodd ei dynnu’n grog a’i chwarteru am arwain y gwrthryfel ac mae gweddillion ei gorff nawr yn gorwedd yn fud dan Heol y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd.

Yn ôl adroddiadau o’r cyfnod, ymddengys fel petai’r tywydd wedi cydymdeimlo â chyflwr emosiynol y bobl “oherwydd bu cyfres o gynaeafau gwael a salwch gwartheg”. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn Ebrill 1349, cofnodwyd yr achos cyntaf o’r Pla Du yng Nghymru a chredir y bu i rai pentrefi, yn y pendraw, golli hyd at 80% o’u poblogaeth. Yn ôl awduron The Gelligaer Story “Mae’r cyfuniad torcalonnus hyn o amodau siŵr o fod yn egluro ymgiliad y trigolion o anheddau’r gweundir yn ystod y cyfnod hwn.”

Wrth grwydro’r Comin ar ddiwrnod braf ym mis Mai, yr awyr uchel, las yn byrlymu gyda chân yr adar, ehangder y tir yn ymestyn yn dawel i bob cyfeiriad, anodd yw dychmygu’r trybestod a gafwyd yma ac a berodd i bobl ymadael â’r gweundir – am gyfnod o leiaf. Mae cysgod y tai llwyfan, eu hamlinelliad, i’w gweld hyd heddiw. Mae’n werth mynd i’w gweld. Fe’u hadeiladwyd uwchben y llinell goed ac felly ar ddiwrnod clir mae’r golygfeydd o’r mannau hyn yn hyfryd.

Tynnwyd y lluniau a’r ffotograffau arbennig yn yr ysgrif hon gan yr artist lleol @pollylove

Daethpwyd o hyd i’r wybodaeth yn yr ysgrif hon o’r llyfr The Gelligaer Story a gyhoeddwyd gan Gyngor Rhanbarthol Dinesig Gelligaer ym 1960 a hefyd o’r llyfr Gelligaer and Merthyr Common gan Judith Jones, fe’i cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2003.

Notes from the common

Myfyrdodau o’r Comin: Rhagfyr 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Rhagfyr 2025

Wrth ystyried y Comin yn y Gaeaf, daw i’r meddwl foreau oer o farrug, patrymau pigog o iâ ar lafnau’r gwair a lliwiau dwfn y machludon cynnar. Mae’r tymor tywyll hefyd yn golygu mwy o law, gwyntoedd cryfion a chyfnodau o gymylau isel. Wrth i ni nesáu at y Nadolig,...

Myfyrdodau o’r Comin: Tachwedd 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Tachwedd 2025

Mewn cae y tu ôl i Res Coly ym Medlinog, ac ychydig i’r gogledd ohono, ar waelod llethrau Gilfach yr Encil, mae yno bwll ddŵr hyfryd. O’i amgylch tyfa nifer o fedw arian ac ar erchwyn y dŵr mae brwyn a gwair a rhedyn yn tyfu. Mae’n hafan i fywyd gwyllt ac yn le...

Myfyrdodau o’r Comin: Hydref 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Hydref 2025

Mae yno rywbeth am gadnoid sy’n awgrymu’r Hydref. Efallai mai lliw eu cot sy’n ein hatgoffa o liw’r dail crin neu efallai am fod y dyddiau’n byrhau bod mwy o siawns ein bod yn crwydro o amgylch y lle ar yr un adeg ag y mae’r cadno’n ymlwybro nôl i’w wâl wedi noson o...

Myfyrdodau o’r Comin: Medi 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Medi 2025

Medigan IsfoelY llwyni canau yn llawnionAfalau filoedd yn fochgochionBrithwyd y berth hyd y bônYn dew gan fwyar duon Mae mis Medi’n gyfnod o lawnder a ffrwythlondeb: y cnau, y caeau, y ffrwyth ac yn aml ceir awyr uchel las dwfn. Ond clywn hefyd sibrydion y gaeaf a...

Myfyrdodau o’r Comin: Awst 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Awst 2025

Y Gylfinir Does dim byd sy’n dynodi’r Gwanwyn a’r Haf yn fwy na chân fyrlymus y gylfinir - neu Pegi Big Hir i roi un o’u henwau eraill iddi. Rydym yn ofnadwy o lwcus yn yr ardal hon i allu clywed y Gylfinir ac i fod yn gartref iddi yn ystod misoedd yr haf oherwydd, er...

Subscribe