Myfyrdodau o’r Comin: Ionawr 2024

28 Feb, 2025 | Newyddion

Mae hi’n fis Ionawr – y mis dig du yn ôl Dafydd ap Gwilym. Serch hynny mae’r diwrnodau yn goleuo un cam ceiliog ar y tro ac erbyn diwedd y mis bydd rhyw ymdeimlad o newid ar y gorwel.

Santes Dwynwen

Mae’r cyfnod wedi’r Nadolig yn draddodiadol yn gysylltiedig ag egni anweledig bywyd newydd, a’r addewid y bydd y gwanwyn yn dychwelyd. Yn y traddodiad Celtaidd mae dathliad Imbolc hefyd yn gysylltiedig â chariad ac yn benodol gyda menywod. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad felly bod diwrnod Santes Dwynwen a Sant Ffolant yn cael eu dathlu yn ystod deufis cyntaf y flwyddyn. Dethlir diwrnod Santes Dwynwen ar y 25ain o’r mis hwn.

Dwynwen yw nawddsant y cariadon. Pan drowyd Maelon, y gŵr roedd hi’n ei garu, yn dalp o rew fel na fyddai e’n gallu achosi trafferth iddi bellach, defnyddiodd Dwynwen un o dri dymuniad a roddwyd iddi, i’w ddadmer. Yn ail, dymunodd y byddai gwir gariad yn cael ei warchod am byth yn ei henw ac yn drydydd dymunodd na fyddai hi ei hun fyth yn cwympo mewn cariad eto nac yn priodi fyth ychwaith. Daeth y tri dymuniad yn wir. Felly os oes yno rywun arbennig rydych yn ei garu, cofiwch anfon carden atynt ar y 25ain o’r mis i ddathlu’r cariad hwnnw, a hefyd i gofio am Dwynwen a’i haddewid i holl gariadon Cymru.

Capel Gwladys

Ond beth sydd a wnelo hyn oll â chomin Gelligaer a Merthyr? Roedd Dwynwen yn blentyn i Brychan Brycheiniog – brenin ardal Brycheiniog yn y bumed ganrif. Yn ôl bucheddau’r seintiau daeth Brychan yn wreiddiol o Iwerddon cyn iddo briodi Marchell, etifeddes Garthmadrun (nawr Brycheiniog) a symud i Gymru. Roedd ganddo nifer o blant – rhyw 24 i gyd – er bod sôn mewn gwahanol fannau bod ganddo lai neu fwy na hynny. Felly roedd gan Dwynwen sawl brawd a chwaer. Un ohonynt oedd Tudful a sefydlodd yr anheddfa Gristnogol gyntaf ym Merthyr; ac un ohonynt oedd Gwladys. Yn ôl y chwedl, wedi brwydr gyda Brychan Brycheiniog, cipiwyd Gwladys o lys ei thad yn Nhalgarth gan Gwynllyw fab Glywis o Went.

Mewn un fersiwn o’r stori, yn ei gynddeiriogrwydd rhedodd Brychan ar ôl ei ferch ond pan ddaeth o hyd iddi roedd hi’n cysgu ymysg y rhedyn ym mreichiau ei chariad. Toddodd calon ei thad ac mewn ymgais o heddwch addawodd adeiladu capel yn ei henw yn y man lle daeth o hyd iddi. Priododd y ddau gariad gan fyw yn ardal Gelligaer o’r Comin neu o bosib Boch Riw Carn, nawr Fochriw. Sefydlodd Gwladys ei chapel ar y Comin rhwng Gelligaer a Bargoed ac ym 1906 daethpwyd o hyd i groes garreg Geltaidd ar y safle, croes a oedd yn dyddio o’r wythfed ganrif ydoedd. Gosodwyd y groes honno yn Eglwys Sant Catwg yng Ngelligaer i’w chadw’n ddiogel. Catwg oedd un o feibion Gwladys a Gwynllyw.

Datgladdwyd Capel Gwladys ym 1906 oherwydd ar y pryd roedd Awdurdod Cyngor Gelligaer yn chwilio am fan addas i’w ddefnyddio fel mynwent. Daethpwyd o hyd i’r groes Geltaidd o dan slab o garreg addurnedig wrth iddynt archwilio’r ardal am le i roi’r fynwent. Adeiladwyd wal isel, betryalog tua throedfedd o uchder o amgylch y safle ac mae’r wal yno hyd heddiw. Ond os edrychwch yn ofalus ar y tir, gellir gweld olion wal arall, crwn, sydd yn awgrymu mae ardal sanctaidd o gryn bwysigrwydd oedd y lle hwn amser maith yn ôl.

Yn nes ymlaen gosodwyd carreg goffa yn yr ardal o fewn y wal betryalog. Gan fod y capel yn agos at Fferm Maerdy, credir y bu’r ardal hon o’r comin yn un bwysig, ac yn ganolfan weinyddol hyd yn oed. Ar un adeg, galwyd yr ardal hon yn Dir Gwladys. Mae hi’n werth ymweld â’r amlinelliad sydd ar ôl o’r capel – o bryd i’w gilydd byddwch yn gweld bod tusw o flodau wedi ei gadael yno er cof am rywun. Efallai mai Ionawr – oherwydd Dwynwen ac er cof am gariad Gwladys at Gwynllyw – yw’r mis perffaith i wneud hynny.

Y Rhedyn lle Cysgai Gwladys

Nodwyd yn y llyfr The Gelligaer Story y gorchuddiwyd Tir Gwladys gan redyn ym 1906, yn union fel y gwaeth yn yr hen chwedl. Cliriwyd llawer ohono yn ystod y datgladdiad er mwyn archwilio’r ardal yn drylwyr ond mae’n dal i dyfu’n helaeth ar hyd y Comin. Y rhedyn a welir yma yw’r Rhedynen Gyffredin neu’r Rhedyn Ungoes. Dyma un o’r rhedynnau mwyaf hynafol ac yn ôl tystiolaeth a ddaw o ffosilau mae’n dyddio’n ôl mor bell â 55 miliwn o flynyddoedd. Y rhedynen gyffredin hon sy’n gyfrifol am arlliw hydrefol ein gaeafau. Yn y gwanwyn mae’n cynnig gobaith wrth i’w deil-gangau ymagor yn raddol – cyn iddi droi ein bryniau yn sbloet bywiog o wyrdd yn yr haf. Er gwaethaf ei harddwch a’i hanes anhygoel, nid yw’r rhedynen gyffredin hon wastad o fudd i’n hamgylchfyd. Mae’n wir ei bod hi’n cynnig cysgodfa i’r anifeiliaid – sy’n beth da yn ystod hafau twym y Comin – ond mae’n blanhigyn mor gryf fel y gall atal rhywogaethau eraill rhag ffynnu. Mae yno rannau o Gefn Merthyr lle nad yw’r rhedyn yn tyfu mor drwchus ac yn y mannau hynny gwelir bod grug ac aeron duon bach a mwsogl a chen o bob math yn llwyddo i dyfu a phrifio.

Y Lleuad

Enw lleuad lawn Ionawr yw’r Lleuad Dawel – mae’n wahanol i’r enw a geir yn y Saesneg. Bydd yn ymddangos yn y ffurfafen ar y 13eg o’r mis hwn. Mae Capel Gwladys ar Gomin Gelligaer a Merthyr yn fan prydferth i’w gweld.

Notes from the common

Myfyrdodau o’r Comin: Rhagfyr 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Rhagfyr 2025

Wrth ystyried y Comin yn y Gaeaf, daw i’r meddwl foreau oer o farrug, patrymau pigog o iâ ar lafnau’r gwair a lliwiau dwfn y machludon cynnar. Mae’r tymor tywyll hefyd yn golygu mwy o law, gwyntoedd cryfion a chyfnodau o gymylau isel. Wrth i ni nesáu at y Nadolig,...

Myfyrdodau o’r Comin: Tachwedd 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Tachwedd 2025

Mewn cae y tu ôl i Res Coly ym Medlinog, ac ychydig i’r gogledd ohono, ar waelod llethrau Gilfach yr Encil, mae yno bwll ddŵr hyfryd. O’i amgylch tyfa nifer o fedw arian ac ar erchwyn y dŵr mae brwyn a gwair a rhedyn yn tyfu. Mae’n hafan i fywyd gwyllt ac yn le...

Myfyrdodau o’r Comin: Hydref 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Hydref 2025

Mae yno rywbeth am gadnoid sy’n awgrymu’r Hydref. Efallai mai lliw eu cot sy’n ein hatgoffa o liw’r dail crin neu efallai am fod y dyddiau’n byrhau bod mwy o siawns ein bod yn crwydro o amgylch y lle ar yr un adeg ag y mae’r cadno’n ymlwybro nôl i’w wâl wedi noson o...

Myfyrdodau o’r Comin: Medi 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Medi 2025

Medigan IsfoelY llwyni canau yn llawnionAfalau filoedd yn fochgochionBrithwyd y berth hyd y bônYn dew gan fwyar duon Mae mis Medi’n gyfnod o lawnder a ffrwythlondeb: y cnau, y caeau, y ffrwyth ac yn aml ceir awyr uchel las dwfn. Ond clywn hefyd sibrydion y gaeaf a...

Myfyrdodau o’r Comin: Awst 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Awst 2025

Y Gylfinir Does dim byd sy’n dynodi’r Gwanwyn a’r Haf yn fwy na chân fyrlymus y gylfinir - neu Pegi Big Hir i roi un o’u henwau eraill iddi. Rydym yn ofnadwy o lwcus yn yr ardal hon i allu clywed y Gylfinir ac i fod yn gartref iddi yn ystod misoedd yr haf oherwydd, er...

Subscribe