Mae hi’n fis Rhagfyr ac, i lawer o bobl, bydd yr wythnosau nesaf yn gyfnod prysur o gyngherddau a gwasanaethau, partïon a pharatoadau! Ond os ydych yn chwilio am rywbeth tawelach i’w wneud yn ystod yr ŵyl, beth am fynd ar bererindod aeafol ar hyd y Comin i fan lle dathlwyd Nadoligau’r gorffennol..
Hela’r Dryw

Yn ystod y cyfnod hwn yng Nghymru (ac yng ngweddill Prydain a’r gwledydd Celtaidd) byddent wedi Hela’r Dryw. Roedd hi’n ddefod a oedd yn deillio o’r cyfnod cyn-gristonogol ac roedd yn ffordd o ddathlu Duw’r Goleuni drwy aberthu’r dryw bach – sef Brenin yr Adar. Os ydych yn amyneddgar, mae’r dryw bach i’w weld mewn coedlannau a ffermdiroedd led led Cymru. Felly os fyddwch yn cerdded tuag at y Comin ar hyd un o’r lonydd bychain, edrychwch yn ofalus ymysg canghennau’r perthi. Efallai y gwelwch Frenin yr Adar yn ymguddio’n ddiogel heb fod arno ofn bellach cael ei roi’n aberth i Dduw’r Haul.
Anheddau Coll

Un o’r pethau arbennig am y dirwedd hon, heblaw am yr adar, yw’r adfeilion ac olion yr hen gartrefi a geir yma. Mae’r anheddau hyn yn dangos i ni y bu bwrlwm bywyd arall ar y Comin unwaith, bywyd o dafarndai a bythynnod sydd, erbyn heddiw, yn wag neu wedi diflannu. Yn ystod mis Rhagfyr gallwn gofio am y Nadoligau a fu yma. Cawn ein hatgoffa gan yr adfeilion mud nad oes unrhyw beth yn para am byth – nid hyd yn oed cartrefi o gerrig.
Rhwng 1995 a 2004 ariannwyd yr Arolwg Aneddiadau Gweledig Anghyfannedd gan Cadw. Ymwelodd y pedair Ymddiriedolaeth Archeolegol Gymreig (Heneb ers 2024) â bythynnod, ffermdai a chytiau bugeilied gwag a diffaith a daeth i’r amlwg pa mor niferus yw’r anheddau hyn yng Nghymru a hefyd pa mor agored i ddifrod a dinistr gall y safleoedd hyn fod. Mae’r anheddau hyn yn bwysig oherwydd, yn wahanol i’r cestyll a’r plastai, maen nhw’n enghraifft o hanes dosbarth gweithiol Cymru.
Ar y Comin ceir sawl enghraifft o’r cartrefi gweigion hyn. Ar Gefn Gelligaer, mae olion bythynnod Pen Marc i’w gweld hyd heddiw – yr onnen a’r ffawydden yn tyfu lle bu ystafelloedd a phobl gynt. Ar Gilfach yr Encil, rhan o Gefn Merthyr, gallwch gerdded heibio Fferm Begwn neu, yn swatio rhwng y ddau Gefn, ceir adfeilion mwy diweddar Nant y Ffin. Mae llawer yn rhagor o’r anheddau hyn i’w gweld ar y Comin.
Ar un adeg, yn hytrach na choeden Nadolig wedi eu haddurno, darn o’r gelynnen wedi ei gosod ger y pentan fyddai wedi harddu’r tŷ, gan mai dyna oedd y traddodiad yng Nghymru ‘slawer dydd. Er bod y cartrefi hyn yn ymddangos yn anghysbell i ni, byddai’r trigolion wedi ymgynnull i ddathlu’r ŵyl. Er mai capel yr anghydffurfwyr oedd Craig Fargod ar lethrau gorllewinol Cefn Gelligaer – ac nid oedd felly’n perthyn i’r traddodiad eglwysig – mae rhywbeth atmosfferig am ddychmygu cerdded heibio iddo yn yr eira yn ystod yr oriau mân bore’r Nadolig: ymdaith o oleuni’n ymlwybro ar hyd y bryn a charolau’r Plygain yn atseinio drwy’r cwm.
Y Gumuned Ffermio
O ran y ffermwyr, bydd Rhagfyr yn parhau’n gyfnod prysur. Bydd y defaid yn ôl ar y Comin wedi’r hwrdda felly gofalwch amdanynt wrth yrru yn y niwl a’r iâ. Mae llawer o anifeiliaid yn cael eu lladd yn ystod y gaeaf am fod pobl yn gyrru’n rhy gyflym i amodau’r tywydd.
Un o’r pethau pwysicaf y mis hwn fydd bwydo’r defaid yn dda oherwydd, er na fydd yn amlwg iawn wrth inni edrych arnynt, bydd llawer ohonynt yn feichiog erbyn hyn. Yn ogystal â bwydydd eraill, byddant yn defnyddio gwair a dyfwyd yn y caeau ger llethrau’r Comin. Cynaeafwyd y gwair ym mis Mehefin a Gorffennaf eleni – roedd y tywydd yn garedig felly cwblhawyd y gwaith yn gynt nag arfer.
Y Lleuad

Lleuad lawn mis Rhagfyr yw’r Lleuad Oer ond fe’i gelwir hefyd yn Lleuad Hirnos ac yn Lleuad Dderwen. Bydd hi’n hwylio ein ffurfafen ar y 15fed o’r mis hwn fel y gwnaeth ym mis Tachwedd ac os fydd hi’n noson glir, bydd Comin Gelligaer a Merthyr yn le prydferth i’w gweld.
Tynnwyd pob llun a phob ffotograff gan yr artist @pollylove





