Myfyrdodau o’r Comin

Myfyrdodau o’r Comin: Rhagfyr 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Rhagfyr 2025

Wrth ystyried y Comin yn y Gaeaf, daw i’r meddwl foreau oer o farrug, patrymau pigog o iâ ar lafnau’r gwair a lliwiau dwfn y machludon cynnar. Mae’r tymor tywyll hefyd yn golygu mwy o law, gwyntoedd cryfion a chyfnodau o gymylau isel. Wrth i ni nesáu at y Nadolig,...

Myfyrdodau o’r Comin: Tachwedd 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Tachwedd 2025

Mewn cae y tu ôl i Res Coly ym Medlinog, ac ychydig i’r gogledd ohono, ar waelod llethrau Gilfach yr Encil, mae yno bwll ddŵr hyfryd. O’i amgylch tyfa nifer o fedw arian ac ar erchwyn y dŵr mae brwyn a gwair a rhedyn yn tyfu. Mae’n hafan i fywyd gwyllt ac yn le...

Myfyrdodau o’r Comin: Hydref 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Hydref 2025

Mae yno rywbeth am gadnoid sy’n awgrymu’r Hydref. Efallai mai lliw eu cot sy’n ein hatgoffa o liw’r dail crin neu efallai am fod y dyddiau’n byrhau bod mwy o siawns ein bod yn crwydro o amgylch y lle ar yr un adeg ag y mae’r cadno’n ymlwybro nôl i’w wâl wedi noson o...

Myfyrdodau o’r Comin: Medi 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Medi 2025

Medigan IsfoelY llwyni canau yn llawnionAfalau filoedd yn fochgochionBrithwyd y berth hyd y bônYn dew gan fwyar duon Mae mis Medi’n gyfnod o lawnder a ffrwythlondeb: y cnau, y caeau, y ffrwyth ac yn aml ceir awyr uchel las dwfn. Ond clywn hefyd sibrydion y gaeaf a...

Myfyrdodau o’r Comin: Awst 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Awst 2025

Y Gylfinir Does dim byd sy’n dynodi’r Gwanwyn a’r Haf yn fwy na chân fyrlymus y gylfinir - neu Pegi Big Hir i roi un o’u henwau eraill iddi. Rydym yn ofnadwy o lwcus yn yr ardal hon i allu clywed y Gylfinir ac i fod yn gartref iddi yn ystod misoedd yr haf oherwydd, er...

Myfyrdodau o’r Comin: Gorffennaf 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Gorffennaf 2025

Trosolwg Byr o Ddaeareg Comin Gelligaer a Merthyr Pan mae’r haf yn ei anterth, does yno ddim byd prydferthach na Chomin Gelligaer a Merthyr. Gorwedda’r gweundir hwn yng ngogledd Maes Glo de Cymru. O edrych ar y dirwedd, yr hyn sy’n eich taro yw’r meithder dirfawr ac...

Myfyrdodau o’r Comin: Mehefin 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Mehefin 2025

Pwll Rhos Las / RhasLas yw'r enw ar y map OS. Golygfeydd prydferth ger pentrefi colledig Pantywaun a Blaen Carno. Ym mis Mehefin 1831, draw yn nhref Merthyr, dros gribyn Cefn Merthyr, cafwyd un o’r gwrthryfeloedd mwyaf gan weithwyr yn erbyn yr haearn-feistri a’r...

Myfyrdodau o’r Comin: Mai 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Mai 2025

Mai – a’r haf ar gyrraedd. Mae bywyd gwyllt y Comin yn ffynnu ac yn enfys o liwiau: melyn y grug, gwyrdd llachar y glaswellt a’r brwyn newydd, pinc a phorffor y gwair a’r blodau gwyllt sy’n byrlymu o’r ymylon a choch tywyll hefyd yn rholio o’r perthi. Clywir cân yr...

Myfyrdodau o’r Comin: Ebrill 2025

Myfyrdodau o’r Comin: Ebrill 2025

Yr Ehedydd Yr Ehedydd Oriau hydr yr ehedydda dry fry o'i dŷ bob dydd,borewr byd, berw aur bill,  bardd â'r wybr, borthor Ebrill.gan Dafydd ap Gwilym Tua diwedd mis Ebrill, gyda’r brwyn yn prysur dyfu’n ôl ar weundir y Comin, bydd yr ehedydd yn dechrau nythu....

Myfyrdodau o’r Comin: Mawrth 2025

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd! Ac erbyn diwedd y mis gobeithio y bydd yn teimlo'n fwy fyth fel y Gwanwyn.Dydd Sadwrn y 1af o Fawrth yw Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru wrth gwrs - diwrnod a neilltuwyd ers canrifoedd i ddathlu Cymru a Chymreictod. Mae ein hanthem genedlaethol...